Sioeau
Ers 2003, mae Theatr Cymru wedi bod yn mynd â theatr Gymraeg ei hiaith i galon cymunedau ledled Cymru, gan ddathlu ein hunaniaeth a’n hiaith yn ei holl amrywiaeth. Cymerwch olwg ar ein cynyrchiadau diweddaraf yma:
-
Dawns y Ceirw
Cyd-gynhyrchiad gaeafol newydd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
-
Byth Bythoedd Amen
Mae Lottie ar noson allan sy'n wahanol i bob noson allan gynt, wrth i'r ffin rhwng realaeth a dychymyg chwalu.
-
Huw Fyw
Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.
-
Brên. Calon. Fi
Monolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru
-
Wrecslam!
Pedair drama fer newydd wedi'u gwreiddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru i’w perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
-
Romeo a Juliet
Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth.
Cyn-gynyrchiadau
-
Fy Enw i yw Rachel Corrie Yn deillio o ddyddiaduron ac e-byst Rachel, dyma ddrama dirdynnol a hynod bersonol sy’n dilyn ei siwrnai o fywyd swbwrbaidd i ganol gwrthdaro Israel-Palestina.
-
Brên. Calon. Fi Monolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru
-
Ha/Ha Pontypridd! Ymunwch â ni i ddeffro'r hwyl... i atgyfodi comedi… I ATGYFOMEDI!
-
Ie Ie Ie yn Eisteddfod yr Urdd Mae dau bâr yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu. Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.
-
Parti Priodas Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha... Ar daith ledled Cymru: Ebrill a Mai 2024
-
Kiki Cymraeg (Perfformiad Sgratsh) Beth sy’n digwydd pan chi’n cyfuno Dawnsfa a Theatr? Pan mae chwedlau hudolus y gorffennol yn cyfarfod perfformwyr chwedlonol heddiw?
-
Ie Ie Ie Mae dau bâr yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu. Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.
-
Yr Hogyn Pren yng Ngŵyl Agor Drysau Mae bywyd yn gallu bod yn anodd pan ti wedi dy greu o froc môr...
-
Rhinoseros Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?
-
Swyn Dewch gyda Swyn ar siwrne trwy fyd natur…
-
Yr Hogyn Pren Antur hudolus i’r teulu i gyd, wedi’i hysbrydoli gan gerdd I. D. Hooson, yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
-
Rwan Nawr 5 dramodydd, 5 drama fer, 1 papur newydd byw – yn syth o’r wasg!
-
Rhyngom Dwy fonolog tyner wedi’u haddasu i'r llwyfan o gyfrol Rhyngom gan Sioned Erin Hughes
-
Parti Priodas Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha yng Nghaffi Maes B
-
Popeth Ar y Ddaear Cynhyrchiad Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru.
-
Pijin / Pigeon Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys...
-
Sioeau Mewn Partneriaeth Ry'n ni'n falch iawn o'r cyfle i gydweithio gyda sefydliadau a chwmnioedd gwahanol. Gweler isod rhai o'n sioeau mewn partneriaeth ar hyn o bryd!
-
Golygfeydd o'r Pla Du Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr. Comedi direidus, tywyll am argyfwng a llygredd gan Chris Harris. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.
-
Drws Agored Ar Daith Aeth ein Cyfarwyddwr Artistig newydd Steffan Donnelly ac aelodau eraill o’r tim ar daith i leoliadau ledled Cymru i gwrdd â gweithwyr creadigol o bob math ar ddechrau 2023.
-
Tylwyth Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman yn falch o gyhoeddi y bydd Tylwyth yn dychwelyd i’r llwyfan yr hydref hwn. Bydd Tylwyth, gan y dramodydd gwobrwyol Daf James, yn agor yn Theatr y Sherman cyn teithio theatrau ledled Cymru.
-
Theatr Gen Cymru yn 'Steddfod Tregaron Hir oedd pob aros, ond braf oedd cael y 'Steddfod ’nôl y llynedd ar dir y Cardis, ac roedd yn fraint gan Theatr Gen i fod yn rhan o’r ŵyl yn Nhregaron gyda rhywbeth at ddant pawb.
-
Digwyddiad Ar y Dibyn Rhannu a dathlu prosiect Ar y Dibyn.
-
Betty Campbell - Darganfod Trebiwt Pwy oedd Betty Campbell? A beth sydd mor arbennig am ei chartref, Bae Teigr? Dewch i ddysgu am y ddynes Gymraeg hanesyddol gyntaf a chafodd ei dathlu drwy gerflun yng Nghymru.
-
Petula Sut yn y byd wyt ti fod i dyfu i fyny pan fo popeth o dy gwmpas di'n cwympo’n ddarnau?
-
Tremolo Podlediad pwerus sy’n rhoi mewnwelediad clir i’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis allai fod yn cuddio yn eu genynnau.
-
Enfys Dewch i glywed beth ddigwyddodd nesaf gyda Nick a'i diwtor Cymraeg, Enfys…
-
Anfamol “Ella dwi’n rhy ffysi. Ond dwi jest rioed ’di ffeindio ‘Yr Un.’ I fod yn onest, dwi’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”
-
Gwlad yr Asyn Roedd Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd a chyflwyno Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason.
-
Faust + Greta Noson allan. Cyfarfod rhywun ar hap. Ond dyma stori gariad sydd ar ben cyn iddi gychwyn.
-
Pryd Mae'r Haf (Ar-lein) “Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”
-
Adar Papur "Sut ’dan ni’n downsio o gwmpas y gwir gymaint?"
-
Theatr Gen Eto Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin.
-
Pryd Mae'r Haf? “Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”
-
Llygoden yr Eira Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac mae’r eira yn garped ar lawr y goedwig. Gan wisgo’n gynnes, rhuthra blentyn allan i chwarae yn y byd newydd disglair.
-
Y Cylch Sialc “Yn y dyddiau mwyaf gwaedlyd, mae pobl dda yn byw.”
-
X “Cyn gynted â ma’r enw ‘Cymru’ yn ca’l ei delet’o, that’s it am byth.”
-
Nyrsys Gan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi troi yn 70 oed yn 2018, cafwyd gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru fodern, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn.
-
Estron Gliniadur, tun o siocledi Quality Street, ac awdur yn chwilio am ei ddrama mewn bydysawd diderfyn.
-
Nansi O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.
-
Nansi O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.
-
Mrs Reynolds a'r Cena Bach Pan mae gardd hyfryd Mrs Reynolds yn cael ei difrodi, caiff y fandal ifanc, Jay, ei yrru nôl yno gan yr awdurdodau i helpu’r hen wraig i’w thrwsio.
-
Chwalfa Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900 – 1903) yw’r anghydfod diwydiannolhiraf yn hanes y Deyrnas Unedig, a chefndir nofel fawr T Rowland Hughes.
-
Dawns Ysbrydion Hanes diwylliannau dan fygythiad, gorthrymu iaith a gorchfygu cenedl.
-
Pan Oedd y Byd yn Fach Gaeaf 1984, ac mae Streic y Glowyr yn ei hanterth. Mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
-
Y Fenyw Ddaeth o'r Môr Yn ferch i geidwad goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf.
-
Dwy (Two) Dwy chwaer. Dwy ddramodwraig newydd. Dwy ddrama.
-
Dwr Mawr Dyfn Mae merch ifanc o’r enw Tryweryn yn ceisio darganfod beth yn union a’i denodd hi at lan y llyn am y tro olaf.
-
Y Negesydd Mae sibrydion yn bethau cyffredin iawn mewn pentrefi cefn gwlad. Ond sibrydion go wahanol sy’n poeni un gymuned fechan.
-
Blodeuwedd Dehongliad oesol Saunders Lewis o’r hen, hen chwedl sy'n ein hatgoffa mai arf peryglus yw natur yn nwylo dyn.
-
Pridd Un prynhawn mae Alwyn Tomos – neu Handi Al i blant y fro – yn cyrraedd adref i ddarganfod bod pob dim a’i ben i waered. Mae’r ffôn yn canu a dieithriaid yn galw, ond mae’r byd i gyd yn bridd.
-
Rhwng Dau Fyd Mae Daf yn ceisio dod o hyd i’w lais – ond pwy yw’r ferch y tu ôl i’r drws? Pryd fydd Ceri a Glyn yn deffro o hunllef eu gêm? A tybed ai dyletswydd Marjory yw arwain y meirw i’r byd nesaf?
-
Rhwydo / Vangst Mae dyheadau’n cael eu teimlo i’r byw, ac ofnau’n treiddio hyd at yr asgwrn yn y darn hynod hwn o theatr gorfforol o’r Iseldiroedd o waith yr artist unigryw Roos van Geffen.
-
Blodyn 2 gymuned. 2 leoliad. 1 stori.
-
Dyled Eileen Mae Dyled Eileen yn olrhain hanes Eileen a Trefor Beasley o Langennech a’u brwydr am hawliau yn y Gymraeg.
-
Llwyth “When the shit hits the fan, ti ddim yn rhedeg, ti ddim yn dewis rhywbeth neu rywun arall. Mae cariad yn golygu ti ’di neud dy ddewis yn barod.”
-
Deffro'r Gwanwyn ‘Wel, 'sdim dwywaith am hyn... dwi’n f****d...’
-
Dal Gafael | Hold On Ensemble o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru yn perfformio stori chwerwfelys am gyfiawnder hinsawdd a chwestiynu hunaniaeth.