Adar Papur

"Sut ’dan ni’n downsio o gwmpas y gwir gymaint?"

Adar Papur

gan Gareth Evans Jones

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystad Lenyddol Gwenlyn Parry

Sut ’dan ni’n downsio o gwmpas y gwir gymaint?

Yn feichiog, yn sengl, ac mewn swydd ddi-ddiolch, mae Sara wedi cael digon. Mae Iwan yn benderfynol o aros ar ben ei hun yn ei fyd bach diogel, ac mae Ruth yn ymgolli yn ei gardd tra bod bywyd yn prysuro’n ei flaen hebddi.

Ond pan mae llwybrau’r tri yn croesi, rhaid i Sara, Iwan a Ruth wynebu’r gwir.

Dyma ddrama newydd, obeithiol gan Gareth Evans Jones am golled, iechyd meddwl bregus a chyfeillgarwch annisgwyl – drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

5 Awst 2020

7yh

Perfformiad trwy gyfrwng y Gymraeg yw Adar Papur.

Mae Adar Papur bellach ar gael i’w wylio ar ein sianeli YouTube ac /-\/\/\ (amam.cymru/theatrgen).
Mae capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar y recordiad.
Cast

Sion Eifion

Mirain Fflur

Judith Humphreys

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwraig: Branwen Davies

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw Oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau at broblemau iechyd meddwl, colled a marwolaeth

Headshots actorion