Staff y Cwmni
-
Angharad Jones Leefe Cyfarwyddwr Gweithredol
-
Angharad Mai Griffiths Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
-
Angharad Mair Davies Pennaeth Cynhyrchu
-
Ceri Williams Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
-
Elin Cain Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
-
Ffen Jones Swyddog Technegol
-
Fflur Thomas Cynhyrchydd
-
Gavin Richards Cynhyrchydd Cynorthwyol
-
Meinir James Rheolwr Cyllid
-
Melangell Dolma Cydlynydd Datblygu Creadigol
-
Nesta Jones Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
-
Nia Wyn Skyrme Cynhyrchydd
-
Rhian A. Davies Cyfarwyddwr Cynhyrchu
-
Sian Elin Williams Cydlynydd Cyfranogi
-
Steffan Donnelly Cyfarwyddwr Artistig

Ymunais a’r Theatr yn Ionawr 2015 a dwi wrth fy modd yn gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru. Dwi’n wreiddiol o Sir Gâr, yn gymysgedd o Gwm Gwendraeth a Chaerfyrddin, ac mi astudiais am raddau BA ac MA ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Dwi wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu a’n ffrindiau, yn enwedig fy mhlant Osian a Mati. Dwi’n mwynhau teithio a bwyd da, ac yn amlwg, mynd i’r theatr!
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Shwmae! Angharad Griffiths ydw i, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru.
‘Dwi yn dod yn wreiddiol o Aberteifi, ond yn bellach yn byw yn Llanelli gyda fy nghath fach, Beti a Dolly y Cavachon. Es i i’r Brifysgol yn yr Atrium yng Nghaerdydd i astudio Cynhyrchu’r Cyfryngau cyn graddio yn 2016. Ers hynny, dwi ‘di gweithio ar raglenni teledu byw a dramâu cyn symud ymlaen i weithio ym myd theatr. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn byd byrlymus a chyffrous, ac mae’r theatr yn bendant yn sicrhau hynny!
Yn fy amser sbâr, rwyf wrth fy modd yn cerdded, yng nghanol anifeiliaid a bywyd gwyllt ac yn joio gyda fy nheulu a ffrindiau.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Helô! Angharad Davies ydw i, pennaeth yr adran gynhyrchu. Ers i mi raddio o’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd dwi wedi bod yn brysur iawn yn gwneud gwaith rheoli llwyfan ar amryw o gynyrchiadau, ac yn mwynhau a chwerthin wrth wneud. Dwi wrth fy modd yng nghwmni fy ngŵr Alun, ein merch fach Elsi Cêt a Sioni’r ci, a dwi’n hoff iawn o siopa a choginio.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Haia! Ceri ydw i, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Theatr Gen.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg, gweithiais mewn amrywiaeth o swyddi marchnata, cyfathrebu a chodi nawdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn ymuno â thîm Theatr Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2019.
Cefais fy magu yn Llangennech, ger Llanelli, ac mae’r celfyddydau wastad wedi bod yn agos at fy nghalon. Rydw i hapusaf fy myd ar y traeth gyda fy ngŵr Steve a’r plant, Efa a Macsen.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Haia! Elin Cain ‘dw i, a ‘dw i’n Swyddog Marchnata a Chyfathrebu hefo Theatr Genedlaethol Cymru.
‘Dwi’n dod o Fethesda, ond symudais i Gaerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl i astudio. Fe wnes i raddio o Brifysgol Caerdydd llynedd gyda BA mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Rydw i wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi cyn ac ar ôl graddio, yn cynnwys swydd marchnata gyda asiantaeth greadigol, cyflwyno radio ac ymgysylltu cymunedol. ‘Dwi’n newydd i’r tim yn Theatr Gen, ac yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yma!
Mae’r celfyddydau wedi bod yn rhan o ‘mywyd i ers erioed, a ‘dw i wedi fy magu yn y byd theatr yng Nghymru. Pan ‘dw i ddim yn gweithio, mi fedrwch chi fy ffeindio i’n siopa, yn canu, yn darllen, yn gwrando ar gerddoriaeth neu’n mynd allan efo fy ffrindiau a ‘nheulu. ‘Dw i wrth fy modd hefo ieithoedd a darganfod diwylliannau newydd. Dwi’n caru teithio a ‘dw i wedi treulio cyfnodau yn byw yn Ffrainc a Sbaen. Dw i’n caru cerddoriaeth ac wrth fy modd yn mynd i wyliau yn yr haf. Fy hoff ŵyl ydi Primavera Sound gan ei fod yn cyfuno fy nau hoff beth: cerddoriaeth, a fy hoff ddinas lle ro’ ni’n byw am gyfnod sef Barcelona.

Helo! Tryffenna ydw i (Ffen yn fyr) a fi yw Swyddog Technegol Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi yn dod yn wreiddiol o Bwllheli yn y gogledd. Symudais lawr i Lanelli bedair blynedd yn ôl ac dwi wrth fy modd yma. Cyn gweithio i Theatr Gen, roeddwn i’n gweithio i Theatrau Sir Gâr fel technegydd mewnol llawn amser, rhwng y dair theatr; Ffwrnes yn Llanelli, Y Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman. Dwi’n hoff iawn o fynd i’r theatr i weld pob mathau o sioeau. Yn fy amser rhydd rwyf yn hoff o dreulio amser gyda theulu a ffrindiau, a mynd i wersylla pan mae’r tywydd yn braf.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Cefais fy magu ym mhentref Borth-y-Gest, ger Porthmadog, Gwynedd, ond bellach dwi wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd. Dwi wrth fy modd efo byd y theatr, a’m breuddwyd ar un adeg oedd bod yn actores fyd enwog! Cerdded ar hyd y traeth yn Ninbych-y-pysgod hefo Gary y gŵr a’r plant, Erin a Mali, ydi fy hoff beth i. Mae cwtsh ar y soffa hefo’r plantos wastad yn codi fy nghalon, ac mae siocled, gwydraid o win a gwylio’r ffilm Dr Zhivago yn well na’r un feddyginiaeth pan dwi’n sâl!

Helo! Gavin ydw i, Cynorthwyydd Datblygu Creadigol y cwmni – rôl newydd sydd wedi’i chyd-greu gan Theatr Gen a Weston Jerwood ar gyfer 2021.
Fy mhrif rôl i fydd sefydlu grŵp newydd o artistiaid cyswllt, a chael datblygu hefyd fel cynhyrchydd.
Dw i’n wreiddiol o Dreharris, pentref bach ger Pontypridd ond erbyn hyn yn byw yn Llundain.
Yn fy amser sbâr, rwy wrth fy modd yn teithio’r byd, bwyta allan a chymdeithasu gyda fy ffrindiau!
Fy rhagenwau yw fe/ei.

Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, ac mae’n grêt cael bod yn ôl yn byw a gweithio yn fy sir enedigol. Dwi wastad wedi mwynhau mynd i weld dramâu a sioeau, ac mae’n brofiad difyr nawr i weld yr holl waith cefndir sy’n gysylltiedig â chreu drama o’r dechrau i’r diwedd! Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaeth o bob math – gwrando neu ganu mewn côr – a does dim byd gwell na mwynhau bwyd da yng nghwmni teulu a ffrindiau.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Cefais fy magu ar odre’r Moelwynion yn Llanfrothen, Sir Feirionnydd. Dwi bellach yn byw yng Nghaerdydd ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rydw i’n ddramodydd, cynhyrchydd theatr ac actor sy’n gweithio ar lwyfan, teledu a radio.
Dwi mor gyffrous i fod yn gweithio efo a chefnogi artistiaid eraill wrth iddynt ddatblygu gwaith newydd yn fy rôl fel Cydlynydd Datblygu Creadigol. Heblaw am fod mewn theatr, dwi hapusaf ar ben mynydd, yn coginio a bwyta, neu’n gwylio cerddoriaeth fyw.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Dwi wedi gweithio i’r cwmni ers y cychwyn cyntaf yn 2003, ac yn ymfalchïo fy mod yn gweithio i gwmni cenedlaethol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi wrth fy modd yn byw yn y wlad, yn hoff o gerdded a choginio, ac yn gwerthfawrogi treulio amser gyda ’nheulu.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Nia ydw i, Cynhyrchydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Ers graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, rwyf wedi bod yn lwcus iawn i weithio o fewn sector y celfyddydau yng Nghymru. Fues i’n gweithio gyda Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru am 10 mlynedd yn dod â sioeau proffesiynol i galon cymuned. Dwi wedi gweithio fel Cynhyrchydd a Hyrwyddwr llawrydd ers sawl blwyddyn bellach, ac wedi gweithio gyda nifer o unigolion talentog a chwmnïau anhygoel fel Motherlode, We Made This, a Taking Flight.
Yn wreiddiol o Bencaerau ym Mhendraw Llŷn, dwi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda fy ngŵr Jason a’r plant Adam a Gethin. Dwi hapusaf yn dal fyny gyda ffrindiau a theulu, yn gwylio darn o theatr ac yn cael bwgi ar y llawr dawnsio.

Rwy’ wedi bod yn aelod o’r tîm ers Mawrth 2016. Fi yw Cyfarwyddwr Cynhyrchu y cwmni gyda chyfrifoldeb am y cynyrchiadau i gyd ac hefyd ein gwaith Cyfranogi, sef ein hymwneud ni â’r gynulleidfa ehangach. Mae fy nrws wastod yn agored ac oes gennych syniadau neu sylwadau, byddwn i’n falch iawn i’w clywed a sgwrsio ymhellach amdanynt.
Cyn hyn, bûm yn gweithio gyda BBC Cymru fel rhan o dîm cynhyrchu Adran Sgriptiau Pobol y Cwm, gyda chwmi teledu Tinopolis yn Llanelli fel Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr ar raglenni ffeithiol, plant, adloniant ysgafn, animeiddio, cerddoriaeth a chelfyddydol ac yn fwyaf diweddar bûm yn gweithio ar brosiectau amrywiol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rwy’n byw yn Rhydaman ac yn falch iawn i fod yn rhan o gwmni Theatr Cenedlaethol Cymru sydd wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin.
Fy rhagenwau yw hi/ei.

Helo! Sian Elin ydw i, Cydlynydd Cyfranogi’r cwmni. Dw i’n wreiddiol o Bencarreg, pentref bach ger Llambed ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd gyda fy nghariad Ynyr a Heti fach y ci. Dw i wrth fy modd â theatr yn enwedig y pŵer sydd gan y celfyddydau i addysgu a diddanu. Dw i wedi gwneud gradd Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna gradd MA mewn Cyfarwyddo gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Does dim byd gwell gennai nag ymgysylltu gyda phobl a chyfranogwyr ac yna creu gwaith mewn modd creadigol.
Dw i wrth fy modd yn teithio’r byd, mynydda, treulio amser gyda’r teulu ac yfed coffi mewn caffi. Ac un ffaith ddiddorol: dw i ran fwyaf o’r amser fel fy hun (Sian Elin) ond yr amseroedd eraill dw i mewn dyngarîs fel cymeriad o’r enw Siani Sionc yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd Cymru.

Dwi o Lanfairpwll, Ynys Môn yn wreiddiol, a wedi bod yn cyfarwyddo, actio, a sgwennu ers i mi raddio o Guildhall School of Music and Drama yn Llundain. Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo cyn i mi ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru, a roeddwn i’n gyd-sylfaenwr o’r cydweithfa Llawryddion Celfyddydol Cymru yn ystod pandemig Covid-19. Rydw i wedi bod yn ymddiriedolwr National Theatre Wales, Cyswllt Celf, a Chyngor Creadigol Shakespeare’s Globe.
Rwyf wrth fy modd efo gwahanol ffurfiau o theatr, teithio i lefydd newydd, a nofio!
Fy rhagenwau yw fo/ei.
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
-
Elwyn Jones Cadeirydd Dros Dro
-
Dr Nia Edwards-Behi Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Jacob Dafydd Ellis Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Siôn Fôn Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Gwyn Jones Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Fiona Phillips Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Catherine Rees Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Rhys Miles Thomas Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Gwyn Williams Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr
-
Meilir Rhys Williams Bwrdd Yr Ymddiriedolwyr

Yn enedigol o’r Bala, bu Elwyn yn ymwneud â byd y ddrama yn lleol cyn mynd i astudio’r pwnc yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn ddiweddarach, ymgartrefodd yn Aberystwyth, lle bu’n gweithio i Urdd Gobaith Cymru fel trefnydd yr Eisteddfod cyn ymuno â chwmni cysylltiadau cyhoeddus Stratamatrix; bu gyda’r cwmni hwnnw am bedair blynedd ar ddeg a chafodd ei ddyrchafu’n Gyfarwyddwr.Ymunodd ag Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru yn 1997, ac yn dilyn cyfnod fel Pennaeth Gweinyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus bu’n Brif Weithredwr y sefydliad rhwng 2009 a 2017.

Nia yw Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C. Wrth ddilyn astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Aberystwyth, dechreuodd Nia ei gyrfa fel rhan o dîm Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn ei degawd gyda’r Ganolfan, mewn rolau mor amrywiol â Chynorthwyydd Swyddfa Docynnau, Technegydd Sinema a Chynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, daeth Nia â materion hygyrchedd a chynhwysiant i’r blaen. Mae gan Nia ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Ffilm ac mae hi’n Gyd-gyfarwyddwr ar Ŵyl Ffilmiau Arswyd Abertoir. Ymunodd Nia ag S4C ym mis Rhagfyr 2020.

Mae Jacob yn Brif Ysgogwr Newid dros Faterion Cyhoeddus a Rhyngwladol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Yn ei swydd o ddydd i ddydd mae ei brif gyfrifoldebau’n cynnwys gweithio â’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau eu bod yn mabwysiadu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ei gyfrifoldebau ehangach yn cynnwys hyrwyddo’r Ddeddf yn rhyngwladol ac arwain ar y briff diwylliannol. Yn 2019 fe sefydlodd Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol i gefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau angenrheidiol i wynebu heriau’r dyfodol. Cafodd Jacob ei fagu ym Mro Morgannwg ac astudiodd y Gymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth ac yna MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yng Nghaerdydd. Mae Jacob hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru a Scouts Cymru.

Mae Siôn yn gyfreithiwr sy’n hanu’n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth gan ennill gradd BA mewn Drama a Theatr, Ffilm a Theledu, cyn mynd ymlaen i weithio ym myd y cyfryngau fel actor a chynorthwyydd cynhyrchu. Mae ganddo brofiad o weithio ar amryw o gynyrchiadau theatr, ffilm a theledu ar hyd a lled Cymru. Yna, newidiodd Siôn ei yrfa ac aeth yn ôl i astudio ym Mhrifysgol Bangor (LLB Cyfraith) ac yna Prifysgol y Gyfraith yng Nghaer (LLM LPC). Wedi cyfnod o hyfforddiant gyda chwmni ym Manceinion, mae bellach yn gweithio i gwmni Darwin Gray fel cyfreithiwr masnachol sydd yn arbenigo mewn datrys anghydfod a materion eiddo. Yn ei amser rhydd, mae ganddo ddiddordeb brwd yn nhîm pêl-droed Cymru, sgïo, golff a’r celfyddydau.

Mab fferm o Dregaron yw Gwyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Penuwch ac Ysgol Uwchradd Tregaron cyn graddio gyda BSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Dechreuodd weithio gyda Chyngor Sir Dyfed yn 1976 fel Cyfrifydd dan Hyfforddiant. Penodwyd ef yn Archwilydd Mewnol gyda Chyngor Dosbarth Ceredigion yn Aberystwyth yn 1979, ac yn 1986 dyrchafwyd ef yn Brif Archwilydd Mewnol.
Pan ailstrwythurwyd Llywodraeth Leol yn 1996, penodwyd ef yn Brif Archwilydd Mewnol i Gyngor Sir Ceredigion a’i ddyrchafu’n Gyfarwyddwr Cyllid Ceredigion yn 2002. Yn 2013, fel rhan o ailstrwythuro mewnol y Cyngor Sir, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Strategol – Adnoddau Corfforaethol, a bu yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 2015. Rhwng 2001 a 2015 roedd hefyd yn Drysorydd Mygedol i Gyngor Llyfrau Cymru.
Yn y gorffennol, ei brif ddiddordebau oedd chwarae rygbi a thipyn o golff, ond bellach mae’n mwynhau chwarae bowls yn Aberaeron, seiclo, cerdded, a threulio amser gyda’i wyrion.

Wedi ei magu yng ngorllewin Cymru, mewn cymuned sy’n fwrlwm o ddigwyddiadau celfyddydol Cymraeg, astudiodd Fiona’r Gyfraith a’r Gymraeg (LLB) yn ogystal â’r cwrs diploma ymarfer cyfreithiol (LPC) ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl hyfforddi a chymhwyso gyda chwmni cyfreithiol Morgan LaRoche, mae Fiona bellach yn arbenigo mewn cyfraith gorfforaethol a’r holl waith sy’n cyd-fynd â busnesau. A hithau’n gadeirydd ar Glwb Ffermwyr Ifanc Penybont eleni, ac yn un o arweinyddion aelwyd Hafodwenog, mae Fiona’n hoff iawn o fod yng nghanol bywyd diwylliannol ei chymuned. Cafodd ei hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd am iddi astudio’i gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Catherine Rees yn Uwch Reolwr Materion Corfforaethol ac Adnoddau Dynol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ei meysydd arbenigedd yw Adnoddau Dynol a Llywodraethiant, ac enillodd Wobr Adnoddau Dynol Cymru am y defnydd gorau o’r iaith Gymraeg mewn adnoddau dynol yn 2017.
Magwyd Catherine ym mhentref y Pwll, ger Llanelli, a graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Ar ôl gweithio fel Swyddog Gyrfaoedd yng Nghasnewydd, ac fel cynhyrchydd rhaglenni radio gyda BBC Radio Cymru yn Abertawe, aeth Catherine a’r teulu i fyw dramor yn yr Iseldiroedd ac yna yn Unol Daleithiau America. Wedi dychwelyd i Gymru dechreuodd weithio i’r cwmni datblygu economaidd Menter a Busnes fel ymchwilydd, rheolwr prosiect, cyfarwyddwr ac yna fel Dirprwy Brif Weithredwr, gan ganolbwyntio’n benodol ar Adnoddau Dynol a rheoli prosiectau. Gweithiodd gyda llu o gwmnïau a sefydliadau i’w cynorthwyo i ddatblygu eu busnes. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg hyd 2012. Mae’n byw yng Nghaerfyrddin erbyn hyn, ond gan barhau i gadw un droed yn Llanelli.

Yn enedigol o bentref Alma yn Sir Gaerfyrddin, mae Rhys bellach yn byw yn y Barri ym Mro Morgannwg. Mae Rhys wedi gweithio yn y byd creadigol ers dros ugain mlynedd – fel actor, dawnsiwr, coreograffydd, awdur yn y ddwy iaith, a chyfarwyddwr. Gyda’i gwmni GlassShot, mae Rhys wedi cynhyrchu, cyfarwyddo a theithio dramâu theatr Cymraeg a Saesneg ledled Cymru. Yn flaenorol, Rhys oedd Pennaeth yr Adran Ddigidol yn y cwmni hyfforddiant, Cyfle. Mae gan Rhys arbenigedd yn y maes digidol – yn enwedig gwaith trawsgyfrwng (transmedia), sef adrodd stori ar draws gwahanol blatfformau – a bu’n siaradwr gwadd mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut mae cynrychioli nodweddion a phobl anabl mewn gweithiau theatraidd ‘prif ffrwd’.

Gwyn Williams yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C. Ar ôl gweithio yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am flwyddyn, dechreuodd Gwyn ei yrfa yn y cyfryngau gan weithio i BBC Radio Cymru ym Mangor. Wedi hynny bu’n gweithio i Newyddion 7 a Hel Straeon cyn sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun. Roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, ac yna’n brif weithredwr cwmni adnoddau Barcud yng Nghaernarfon. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu gyda Chomisiynydd y Gymraeg, gan ymuno ag S4C fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn 2015.

Actor o Lanuwchllyn yw Meilir Rhys Williams. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd O. M. Edwards, Llanuwchllyn, ac Ysgol Uwchradd y Berwyn, Y Bala. Penderfynodd ddilyn gyrfa fel actor ar ôl mynychu cwrs haf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2006. Astudiodd ddiploma mewn Astudiaethau Perfformio yn y Liverpool Institute for Performing Arts yn 2007, cyn graddio o’r Royal Central School of Speech and Drama yn 2010 gyda BA mewn Actio.
Ers iddo raddio, mae Meilir wedi perfformio gyda sawl cwmni theatr yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru yn ‘Y Storm’ a ‘Deffro’r Gwanwyn’. Yn ogystal, ymddangosodd ar y sgrin fach mewn nifer o raglenni, a bellach fe’i gwelir yn gyson ar y gyfres deledu boblogaidd, ‘Rownd a Rownd’ fel y cymeriad Rhys.
-
Staff y Cwmni ac Ymddiriedolwyr
Dewch i gyfarfod y tîm...
-
Swyddi a Chyfleoedd
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio i Theatr Genedlaethol Cymru. Cymerwch olwg ar ein holl swyddi gwag.
-
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ym mis Mehefin 2020, fe wnaethon ni ymrwymo i wneud mwy i sicrhau ein bod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol ac i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well yn ein gwaith artistig, ein prosiectau cyfranogol, ein rhwydweithiau, ein aelodau staff a’n Bwrdd.
-
Sibrwd
Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael i’ch tywys trwy’r ddrama, os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ddim.
-
Safonau Iaith Gymraeg
Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn ganolog i’r holl rydym yn ei wneud fel cwmni, a hybu a datblygu’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’n prif hamcan fel elusen.
-
Ymgynghorwyr Ifanc
Ry’n ni eisiau cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith ni a rhoi lle diogel iddyn nhw leisio barn a chynnig adborth.