Ry’n ni eisiau cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith ni a rhoi lle diogel iddyn nhw leisio barn a chynnig adborth. Felly, ry’n ni wedi ymgynnull grŵp o bobl ifanc frwd i'n cynghori ar ein gwaith cyfranogi, marchnata, datblygu creadigol a chynyrchiadau. 

Mae pob un o’n Hymgynghorwyr Ifanc eisoes wedi bod yn rhan o brosiectau a chynyrchiadau’r cwmni, yn cynnwys Cynllun Dramodwyr Ifanc, Petula ac Academi Leeway.  

Fel rhan o’r prosiect, bydd cyfle i'r grŵp rwydweithio gyda’i gilydd yn genedlaethol a mynychu sioeau, ymarferion a gweithdai datblygu creadigol. 

Ein Hymgynghorwyr Ifanc presennol yw:  

Alys Mai 
Carys Bradley 
Cerys Elen 
Del Evans 
Efa Maher 
Elen Jones 
Harvey Evans 
Henry Waddon
Jona Milone 
Kallum Weyman 
Kimberley Abodunrin
Laurie Thomas 
Lois Elenid 
Martha Ifan 
Miriam Sautin 

Hoffem ddiolch iddyn nhw gyd am eu hymroddiad, eu cyngor a’u hegni. 

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n Hymgynghorwyr Ifanc, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’n Cydlynydd Cyfranogi, Sian Elin, ar sian.elin@theatr.com.