Gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gosod theatr Gymraeg wrth galon y genedl. Ry’n ni’n creu ac yn cyflwyno cynyrchiadau theatr sydd â’r nod o swyno a diddanu ein cynulleidfaoedd a thanio eu dychymyg. Ry’n ni hefyd yn darparu cyfleoedd datblygu fydd yn meithrin ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg, ac yn cynnig cyfleoedd creadigol i bobl ledled Cymru brofi effaith weddnewidiol y celfyddydau.

 

Fel elusen gofrestredig, ry’n ni’n ddibynnol ar nawdd a rhoddion gan ein cymunedau, ac ni fyddai’n bosib i ni barhau i ddiddanu ein cynulleidfaoedd heb gefnogaeth ariannol gan ystod eang o ffynonellau. Hoffech chi gyfrannu? Gallwch gyfrannu swm penodol neu osod taliad rheolaidd.

 

Cyfrannu ar-lein:

I gyfrannu yn ddigidol ar-lein neu osod taliad rheolaidd, dilynwch y ddolen hon.

 

Cyfrannu drwy neges destun:

I gyfrannu £3, tecstiwch THEATRGEN 3 70085. Cost y neges fydd £3 yn ogystal â phris un tecst arferol.

I gyfrannu £5, tecstiwch THEATRGEN 5 70085. Cost y neges fydd £5 yn ogystal â phris un tecst arferol.

I gyfrannu £10, tecstiwch THEATRGEN 10 i 70085. Cost y neges fydd £10 yn ogystal â phris un tecst arferol.

 

Bydd eich cyfraniad – yn fawr neu’n fach – yn ein galluogi i barhau i greu sioeau, profiadau, a chefnogi’r sector creadigol. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus.

 

I ddarllen mwy am ein gwaith cyfranogi a’n prosiectau diweddaraf, cliciwch yma.

 

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfrannu, e-bostiwch thgc@theatr.com