Beth yw Newid Diwylliant | Culture Change?
Diolch i nawdd o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru a'r cwmnïau cenedlaethol celfyddydol eraill* wedi sefydlu Newid Diwylliant | Culture Change – sef rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid y sector gelfyddydol Cymraeg i’w wneud yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes.
Mae Newid Diwylliant | Culture Change yn cynnig fframwaith i drawsnewid y cwmnïau sy’n rhan o’r cynllun i fod mewn sefyllfa well i ddenu a recriwtio pobl o'r mwyafrif byd-eang ar bob lefel ac i allu darparu gweithleoedd a diwylliant sefydliadol cynhwysol – a hynny drwy rhaglen o hyfforddiant a datblygiad sefydliadol.
Er mwyn sicrhau perthnasedd ac adlewyrchu profiad bywyd y cymunedau yr ydym am eu denu a'u cynnwys yn ein gweithluoedd a'n cynulleidfaoedd, mae'r rhaglen waith wedi ei gyd-ddylunio gyda’r Grŵp Cyfeillion Beirniadol – grŵp o bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n derbyn tâl am eu hamser a’u harbenigedd.
Mae 23 sefydliad yn cymryd rhan yn Newid Diwylliant | Culture Change, ac mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant i staff a gweithwyr llawrydd (yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth); adolygiad o ddiwylliant mewnol ac arferion gwaith y cwmnïau yn arbennig mewn perthynas ag Adnoddau Dynol a recriwtio; a chyfleoedd i ddatblygu arweinwyr o’r mwyafrif byd-eang.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â thgc@theatr.com.