Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn ganolog i’r holl rydym yn ei wneud fel cwmni, a hybu a datblygu’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’n prif hamcan fel elusen.

Mae’r cwmni yn gweithredu yn fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae holl gyflogeion y cwmni yn rhugl yn y Gymraeg.

Yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’n hysbysiad cydymffurfio, mae gofyn i’r cwmni gydymffurfio â safonau iaith Gymraeg, a osodir gan Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'r safonau yn hybu a hwyluso’r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.

Mae copi o hysbysiad cydymffurfio Theatr Genedlaethol Cymru ar gael isod, yn ogystal â chynllun cydymffurfio a'r adroddiad blynyddol mwyaf diweddar.

Cwynion
Mae polisi cwynion wedi ei gynnwys isod, sy'n amlinellu sut y gallwch wneud cwyn a beth yw'n prosesau ar gyfer delio â chwynion.