Ers 2019, mae Ar y Dibyn wedi bod yn cynnig cyfresi o weithdai creadigol i fentro gyda’n gilydd i ddathlu’r posibiliadau sydd gennym ni, nid rhwystrau dibyniaeth.
Bwriad y gweithdai yw annog creadigrwydd i brosesu ein profiadau o’r byd. Bydd pob gweithdy’n llawn tasgau chwareus a byr i brocio ein dychymyg ac i ryddhau syniadau. Gan greu gwaith ysgrifenedig a’i ddatblygu o fewn y sesiynau, a chefnogi’n gilydd i’w wthio ymhellach yn ein hamser ein hunain. Does dim atebion anghywir, dim ond llond trol o bosibiliadau. Mae cyfle i chwerthin, sylwi ar bethau o’r newydd, colli deigryn neu ddau, ond hefyd ddathlu ein bod ni’n dal yma ac yn gweld y gorau yn ein gilydd. Ein gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, dewr ac uchelgeisiol, a darganfod ffyrdd o’i rannu yn ehangach (yn ddi-enw neu beidio). Ein gweledigaeth yw creu lle diogel i fynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth ac heb reidrwydd i ddatgelu dim am ein sefyllfa bersonol. Mae gennym oll brofiadau amrywiol o ddibyniaeth a bydd brwydrau personol pob unigolyn yn cael eu parchu a’u cadw’n ddiogel.
Gydag arbenigwyr iechyd proffesiynol ym mhob sesiwn i roi unrhyw gyngor fel mae’r angen yn codi, a hanner awr ar ddiwedd pob sesiwn i drafod yn anffurfiol ond nid oes unrhyw reidrwydd i fynychu’r rhain.
Yn y prosiect cychwynnol yn Galeri Caernarfon yn 2019, cafwyd darlleniad o’r gwaith a grëwyd i gynulleidfa oedd wedi eu gwahodd, ond byddwn ni’n ystyried ffyrdd creadigol eraill o drosglwyddo ein profiadau yn y cyfnod hwn ym mhob prosiect. Gallwch wylio fideo o ddarlleniad 2019 fan hyn:
Manylion y gweithdai sydd i ddod
Mae gweithdai grwp penodol wedi ei drefnu ar hyn o bryd yn Maesgeirchen,Bangor o Fai 18-Mehefin 22. Fe allwn drefnu sesiynau 1:1, trwy ebostio Nia ar nia.skyrme@theatr.com a gallwn drefnu sgwrs anffurfiol unigol i chi gyda Iola.
Prosiect Merched Ar y Dibyn
Yn 2022 bu artistiaid Mari Elen ac Iola Ynyr yn creu a chynnal gweithdai creadigol penodol ar gyfer merched Cymraeg eu hiaith sy’n byw gyda chamddefnyddio sylweddau yn ardal Gwynedd a Môn. Mae podlediad arbennig wedi ei gynhyrchu fel cynnyrch creadigol ar gyfer y prosiect hwn.
Sut i wrando: Ar y Dibyn
-
Trailer Ar y Dibyn
Hysbyseb i bodlediad Ar y Dibyn
-
Pennod 1 - Dibyniaeth
Pennod 1 - Dibyniaeth
-
Awdiogram - Pennod 2
Awdiogram- Pennod 2
-
Pennod 2
Pennod 2
-
Pennod 3 - Carwyn
Pennod 3 - Carwyn
Artistiaid
Cwnselwyr
Lluniau hyfforddi Artistiaid
Lluniau gan Kristina Banholzer a Kirsten McTernan
Partneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru ac Adra (Tai) ac artist arweiniol Iola Ynyr yw hwn.
Mae’r prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP), a gyllidir gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta)
Gyda chefnogaeth Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru a Galeri Caernarfon.
CYMORTH YCHWANEGOL
Cyffuriau neu Alcohol
DAN 24/7
Y cam cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnoch yw sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol a siarad â rhywun amdano. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o gyffur neu alcohol neu ddefnydd ffrind neu rywun annwyl i chi, lle da i ddechrau yw cysylltu gyda DAN 24/7 sy'n Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol i Gymru.
Mae'n llinell gymorth ddi-dal, dwyieithog a chyfrinachol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau.
Rhif ffôn: 0808 808 2234 (Ni fydd rhif ffôn DAN 24/7 yn ymddangos ar eich anfoneb eitemedig gartref)
Tecstiwch DAN ar 81066
Ewch i dan247.org.uk
Adferiad Recovery
01792 816600
Ebost: info@adferiad.org.uk
CAMFA
Yn cynnig sesiynau cwnsela os wedi dioddef o broblemau/ yn dioddef o broblemau yn ymwneud a chamddefnydd alcohol neu/a chyffuriau.
https://www.cais.co.uk/services/camfa/
Iechyd Meddwl
C.A.L.L Helpline (Llinell wrando a Chymorth Cymunedol)
Yn cynnig gefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
Mae gan unrhyw un sy'n bryderus am icechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, mynediad i'r gwasanaeth. C.A.L.L, yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol.
Ffon di-dal 0800 132 737
Neu tecstiwch HELP i 81066
Cartrefi diogel yng Nghymru
Shelter Cymru
Yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru.
08000 495 495
Cyngor ar drais/ cam-drin domestig a thrais rhywiol
Byw Heb Ofn
Yn cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
0808 80 10 800
Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth
Testun:07860077333
Cefnogaeth i deuluoedd
Prosiectau Eraill
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Murlun Ysgol Bro Pedr
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
-
Connect Up
Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.