Dweud helô

Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a gweithwyr cefn llwyfan. Mae croeso mawr i chi gysylltu gyda ni i gyflwyno’ch hun. Gadewch i ni wybod am eich gwaith a’ch diddordeb mewn creu neu bod yn rhan o waith yn yr iaith Gymraeg drwy anfon e-bost at creu@theatr.com

 

Gweld eich gwaith

Gadewch i ni wybod petai yna gyfle i ni weld eich gwaith. Pe medrech chi roi gwybod i ni o leiaf mis ymlaen llaw, fe geisiwn sicrhau bod cynrychiolydd o’r cwmni ar gael i fynychu unrhyw gyflwyniad. Ebostiwch creu@theatr.com gyda’r manylion.

 

Cyflwyno sgript neu syniad

Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ac i ystyried sgriptiau a syniadau gennych chi.

E-bostiwch eich sgript neu fraslun o syniad at: creu@theatr.com. Byddwn yn gyrru e-bost i gydnabod ein bod wedi ei dderbyn ac yn anelu i ymateb o fewn tri mis i ddyddiad yr e-bost hwnnw.

 

Cynnig cefnogaeth

Mae ein tîm ni yn barod i helpu. Os ydych chi’n awyddus i sgwrsio am wneud cais grant, gofod ymarfer, creu cyllideb, cytundebau, trefnu taith, marchnata, gwaith cyfranogi, prosiect partneriaeth neu unrhyw beth arall ym maes theatr, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni ac fe wnawn sicrhau bod cynrychiolydd o’r cwmni ar gael i sgwrsio gyda chi. Ebostwich creu@theatr.com

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!