Gorffennaf 2022: mae’r Swyddfa Tywydd yn mesur y tymheredd uchaf erioed yn y Deyrnas Unedig.
40°C.
Mae Prosiect 40°C yn brosiect hirdymor ac uchelgeisiol gan Theatr Genedlaethol Cymru sy’n ymateb i’r foment dyngedfennol yma yn yr argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni frwydro am blaned well i genedlaethau’r dyfodol, mae’n rhaid i ni herio’r hen ffyrdd o ymateb i drychinebau byd natur. Mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r brif ffrwd, gan wreiddio ein syniadau yng ngwirioneddau cyfoes Cymru - yn ein tir a’n cymunedau amrywiol.
Y cwestiwn mawr? Sut gall cyfrwng theatr byw ehangu ein dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd, i’w deall nid fel rhywbeth sy’n bodoli mewn gwlad neu oes bell, ond fel rhan annatod o fywyd yng Nghymru heddiw?
Cyfnod Preswyl Gwreiddioli
28 – 31 Awst 2023
Fis Awst, bydd Prosiect 40°C yn cychwyn gyda chyfnod preswyl Gwreiddioli, gyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dan ofal yr artist arweiniol a’r curadur Dylan Huw, bydd 5 artist yn ymgynnull yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth i wrando, herio, cyd-ddychmygu a datblygu syniadau creadigol.
Gair gwneud yw “gwreiddioli” sy’n disgrifio’r broses o gynhyrchu syniadau gwreiddiol gydag ethos o wreiddio dwfn: yn ein tir, ein hanes a’n cymuned.
Yn ystod 4 diwrnod y cyfnod preswyl, bydd yr artistiaid yn cael eu sbarduno i ystyried safbwyntiau amrywiol ar groestoriadau’r argyfwng hinsawdd gyda phob dim arall sy’n diffinio bywyd heddiw. Bob bore, bydd ysgogwyr ac arbenigwyr gwadd yn cyflwyno a thrafod eu gwaith er mwyn ysgogi sgwrs a syniadau. Bydd cyfleoedd yn y prynhawn i’r artistiaid ddod at ei gilydd i fyfyrio, i drafod ac i ymateb yn greadigol i’r themâu heb y pwysau o gyflwyno unrhyw beth ar ddiwedd y cyfnod. Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth am yr ysgogwyr ac arbenigwyr gwadd dros yr wythnosau nesaf.
Dyma gyfle trawsnewidiol i grŵp o artistiaid fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y pum artist yn derbyn ffî o £1,000 yr un am gymryd rhan yn y prosiect.
Prosiectau Eraill
-
Murlun Ysgol Bro Pedr
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Pedr y cyfle i greu murlun wedi'i ysbrydoli gan yr ardal leol gyda'r artist Siôn Tomos Owen...
-
Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau
Prosiect arbennig ddaeth a dwy genhedlaeth o ddysgwyr Cymraeg o orllewin Cymru ynghyd
-
Connect Up
Mae Theatr Genedlaethol Cymru – ochr yn ochr â Galactig – yn falch iawn o fod yn bartner technegol ar brosiect Connect Up.