Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.
Ein Gweledigaeth
Ein Cenhadaeth
Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.
Theatr Cymru yw’r Theatr Genedlaethol Gymraeg, sy'n creu profiadau theatr beiddgar i ddifyrru ac ysbrydoli pobl Cymru.
Rydyn ni’n creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon. Rydyn ni hefyd yn hwyluso cyfleoedd sy'n ffordd o feithrin ac o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg, ynghyd â chyfleoedd i bobl ym mhob rhan o’r wlad brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd yn eu bywydau.
Sefydlwyd y cwmni yn 2003, gyda grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. O’r cychwyn cyntaf, roedd un peth yn glir – y byddai’n gwmni teithiol, yn mynd â gwaith theatr Cymraeg i galon cymunedau ledled y wlad ac yn dathlu ein hunaniaethau a’n hiaith yn ei holl amrywiaeth.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae'r cwmni wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg yn ogystal â gwaith newydd ac arbrofol, gan gyflwyno mewn theatrau traddodiadol ac mewn lleoliadau annisgwyl. Mae'r cwmni hefyd yn hwyluso prosiectau creadigol, lles a chyfranogol ledled y wlad. Mae Theatr Cymru bellach yn theatr deithiol glodwiw, sy'n gosod Cymru a'i phobl ar y map, ac yn croesawu pawb.
Mae Theatr Cymru yn perthyn i chi.
Enillydd Gwobr UK Theatre 2024 am Ragoriaeth Mewn Teithio
Enwebwyd fel Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau'r Stage 2024