Ein nod yn Theatr Genedlaethol Cymru yw gosod theatr Gymraeg wrth galon y genedl. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod ein gwaith a’n ffyrdd o weithio yn y gorffennol wedi eithrio rhai pobl a chymunedau a bod eu straeon a’u profiadau nhw ddim wedi cael eu hadlewyrchu yn ein cynyrchiadau a’n prosiectau.

Ym mis Mehefin 2020, fe wnaethon ni ymrwymo i wneud mwy i sicrhau ein bod yn sefydliad gwirioneddol gynhwysol ac i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well yn ein gwaith artistig, ein prosiectau cyfranogol, ein rhwydweithiau, ein aelodau staff a’n Bwrdd. Gallwch ddarllen ein datganiad blaenorol mewn ymateb i ymgyrch Black Lives Matter yma.

Rydyn ni am eich sicrhau ein bod yn cymryd camau tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwnnw drwy roi diweddariad i chi ar ein cynnydd hyd yn hyn.

  • Rydyn ni wedi gwneud cynhwysiant ac amrywiaeth yn brif flaenoriaeth strategol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
  • Rydyn ni wedi bod yn craffu ar gynhwysiant ac amrywiaeth presennol ein gwaith a’n sefydliad, ac wedi llunio cynllun cynhwysiant newydd. Bydd y cynllun yma’n cael ei drafod gydag aelodau staff a’r ymddiriedolwyr dros y misoedd nesaf ac yna’n cael ei rannu’n gyhoeddus.
  • Rydyn ni wedi sefydlu grŵp newydd o blith ein hymddiriedolwyr ac aelodau staff i ganolbwyntio ar wella cynhwysiant ac amrywiaeth yn ein gwaith ac o fewn ein sefydliad. Er mwyn sicrhau bod y grŵp yn cynnwys pobl o ystod eang o gefndiroedd, fe wnaethon ni ymestyn yr aelodaeth i gynnwys pobl o’r tu allan i’r cwmni. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi croesawu Mali Ann Rees a Nia Edwards-Behi i’r grŵp, ac rydyn ni’n ddiolchgar iddynt am gyfrannu o’u profiad.
  • Fe wnaethom lansio ymgyrch i recriwtio ymddiriedolwyr newydd oedd wedi’i hanelu’n benodol at grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli ar ein Bwrdd ar hyn o bryd; sef pobl ifanc, pobl anabl a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cyhoeddi enwau ein hymddiriedolwyr newydd yn fuan.
  • Fe wnaethon ni adnabod bod artistiaid anabl ac artistiaid o gefndiroedd ethnig amrywiol wedi’u tangynrychioli o blith ein hartistiaid dan gomisiwn – felly fe lansiwyd Bwrsari Datblygu Syniad newydd yn benodol ar gyfer artistiaid oedd yn uniaethu â’r nodweddion hynny i gyflwyno syniadau ar gyfer cynhyrchiad newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cyhoeddi enwau’r artistiaid llwyddiannus yn fuan.
  • Fe wnaeth aelodau staff ac ymddiriedolwyr gymryd rhan mewn hyfforddiant rhagfarn diarwybod, wedi’i ddarparu gan Diverse Cymru. Mae llawer o aelodau staff hefyd wedi parhau â’u teithiau dysgu personol drwy wneud gwaith darllen ychwanegol, astudio cynnwys digidol ac ymwneud â thrafodaethau a sesiynau hyfforddi pellach.
  • Cafodd Arwel – ein Cyfarwyddwr Artistig – ei gyfweld fel rhan o gyfres o gyfweliadau ar gyfer y podlediad Critically Speaking sy’n trafod hiliaeth systemig a braint pobl wyn yn y celfyddydau. Gallwch ddod o hyd i’r gyfres ar eich hoff blatfform podlediad.
  • Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar y sgwrs ehangach ynghylch iaith a therminoleg. Fe fyddwn ni’n dal i wrando ar adborth er mwyn sicrhau bod y cwmni yn defnyddio’r iaith fwyaf cynhwysol a phriodol bosib.
  • Ers dechrau’r cyfnod clo, rydyn ni wedi rhoi capsiynau dwyieithog ar bob un o’n cynyrchiadau digidol er mwyn galluogi cynulleidfaoedd B/byddar a’r rhai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg i ymwneud â’n gwaith. Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau y bydd ein deunyddiau marchnata bob amser yn gynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd anabl o hyn ymlaen.
  • Rydyn ni wedi gwella hygyrchedd ein prosesau recriwtio drwy gynnig ceisiadau dros fideo, ffurflenni print bras a hysbysebion BSL, yn ogystal â rhannu cyfleoedd yn ehangach a thu hwnt i’n rhwydweithiau arferol.
  • Fel rhan o’n hymrwymiad i groesawu lleisiau newydd ac amrywiol i’n gwaith (ar y llwyfan ac oddi arno), rydyn ni’n ailfeddwl ein polisïau a’n gweithdrefnau recriwtio a chastio i sicrhau eu bod yn gwbl agored a chynhwysol.
  • Mae gwella cynhwysiant o ran cefndiroedd economaidd-gymdeithasol hefyd wedi dod yn fater o bwys i ni. Rydyn ni’n un o 50 o sefydliadau celfyddydol i gael ein hariannu i gynnal un o Gymrodyr Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood, fel rhan o raglen i gael rhagor o bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel i mewn i yrfaoedd diwylliannol. Fe fyddwn yn croesawu aelod newydd i’n tîm yn fuan. Mae rhagor o wybodaeth fan hyn.

 

Rydyn ni’n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud Theatr Genedlaethol Cymru yn sefydliad o fri yng nghyd-destun cynhwysiant ac amrywiaeth yn y Gymraeg. Fe fyddwn ni’n parhau i weithredu ac i ddal ein hunain i gyfri, ac fe wnawn ni eich diweddaru ar ein cynnydd yn ystod y misoedd nesaf.

Datganiad

Ymateb i ymgyrch Black Lives Matter