Mae Criw Creu yn ôl eto yn 2024! Prosiect creadigol yw Criw Creu sy’n cael ei arwain gan Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru.  

Y tro hwn, ry’n ni’n falch iawn o weithio gyda grŵp o Droseddwyr Ifanc o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr a chynnig cyfleoedd iddyn nhw gydweithio gydag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol. 

Dywedodd Jamie Williams o Garchar y Parc: 

'Fel rhan o'r rhaglen gyfoethogi ein nod yw cynyddu hyder, hunan-barch, gwaith tîm, datrys problemau, sgiliau cyfathrebu a sgiliau arwain y plant. Tra bod y plant hyn yn y ddalfa rydym yn canolbwyntio ar feithrin y sgiliau ymaddasol megis parch, gwerthoedd craidd, sgiliau cyflogadwyedd, gwaith tîm, datrys problemau a chreadigedd. Trwy weithio ar y cyd ag asiantaethau allanol a ffurfio partneriaethau fel yr un yma hefo Theatr Gen bydd y plant cymhleth hyn yn cael pob cyfle i lwyddo mewn bywyd gyda’r prif ffocws ar leihau aildroseddu.’ 

Bydd rhagor o wybodaeth am Criw Creu 24 ar gael cyn hir.