Bwriad y casgliad hwn yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeëdig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad.

2008 oedd y tro cyntaf i ni recordio archif o gynhyrchiad er mwyn cofnodi gwaith y cwmni, sef Siwan gan Saunders Lewis. Gwnaed hynny gydag drwy ffilmio gydag un camera a recordio sain o’r llwyfan. Yn 2016, yn y Sherman, recordiwyd Mrs Reynolds a’r Cena Bach gan Gary Owen (trosiad Meic Povey), gyda phum camera a sain drwy ffrwd sain arbennig fel rhan o beilot ffrwd byw sioe theatr. Yna, ar 14 Chwefror 2017, darlledwyd cynhyrchiad safle-benodol o Macbeth – clasur Shakespeare, wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas – o Gastell Caerffili i ganolfannau ar draws Cymru fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Byw.

Ers hynny, rydym wedi ffilmio’r mwyafrif o’n cynyrchiadau er mwyn eu rhannu ar-lein gyda’r sector addysg a chefnogi astudiaethau Drama, Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Mae’r casgliad hwn ar gael am ddim i’r sector addysg yng Nghymru, a cheir rhagor o wybodaeth am adnoddau dysgu ychwanegol isod.

I gofrestru ar gyfer cael mynediad i Casgliad Dysgu, cysylltwch â sian.elin@theatr.com er mwyn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair.

Y casgliad