Casgliad Dysgu
Fel adnodd arbennig i ysgolion, sefydliadau addysg uwch, addysg bellach a’r sector addysg ehangach, mae ein Casgliad Dysgu yn cynnwys mynediad ecsgliwsif i rai o gynyrchiadau archif Theatr Cymru - yn cynnwys ffilmiau'r cynyrchiadau, pecynnau addysg ac adnoddau a ddefnyddiwyd yn ystod y teithiau gwreiddiol.
Bwriad ein Casgliad Dysgu yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad.
Mae’r casgliad hwn ar gael am ddim i’r sector addysg yng Nghymru. Llenwch y ffurflen hon i gofrestru ar gyfer cael mynediad i'r Casgliad Dysgu - byddwn yna yn cysylltu gyda enw defnyddiwr a chyfrinair.
Gweithdai
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr o bob oed i fwynhau theatr Gymraeg ac eisiau gwahodd ysgolion cynradd (lle’n addas), ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion i gydweithio gyda ni a chymryd rhan mewn amryw weithdai.
Gallwn gynnig amryw o weithdai gwahanol - mae amlinelliad o'r gwahanol weithdai ar gael isod:
Gweithdy Cefn Llwyfan
Oed: 14 – 21
Capasiti: 30
Costau: Oddeutu £500 y sesiwn. 1 sesiwn yn para rhwng 2 – 4 awr
Gwybodaeth: Mae’r gweithdy yma yn gyfle gyrfa a gynlluniwyd i ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth disgyblion o rolau yn y theatr trwy weithdai ymarferol dan arweiniad ymarferwyr profiadol ac aelodau o staff Theatr Cymru. Caiff y gweithdai rhyngweithiol eu cyflwyno mewn ysgolion, colegau neu ofodau addysgol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel dylunio goleuo, dylunio setiau a chynhyrchu technegol.
Gweithdy Actio
Oed: 14 – 21
Capasiti: 30
Costau: Oddeutu £500 y sesiwn (byddai hyn yn cynnwys ail-adrodd sesiwn mwy nag unwaith mewn diwrnod)
Gwybodaeth: Gweithdy dwy awr sy’n canolbwyntio ar sgiliau drama – gemau drama i feithrin cysylltiadau, cynhesu llais, cynhesu corfforol, sgiliau perfformio a gweithio ar ddeialog. Gall y sesiwn hon hefyd gynnwys sesiwn Holi ac Ateb ar hyfforddiant, cyfleoedd, rhwydweithio a meithrin cysylltiadau.
Gweithdy Ysgrifennu
Oed: 11 – 21
Capasiti: 30
Costau: Oddeutu £500 y sesiwn (byddai hyn yn cynnwys ail-adrodd sesiwn mwy nag unwaith mewn diwrnod)
Gwybodaeth: Gweithdy dwy awr o hyd sy’n canolbwyntio ar gomisiynu, ariannu eich gwaith, sut i ddatblygu syniadau ar gyfer eich drama, beth yw dramatwrg, a chyfleoedd a rhwydweithio. NEU weithdy sy’n canolbwyntio ar sgiliau ysgrifennu creadigol a chreu deialog, gan weithio at greu darn o waith byr.
Gweithdy Ymladd Llwyfan
Oed: 14+
Capasiti: 20
Costau: Oddeutu £500 y sesiwn. Sesiwn yn para rhwng 2-4 awr.
Gwybodaeth: Mae’r gweithdy yma’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r corff yn saff mewn gofod perfformio. Bydd yn canolbwyntio ar gynhesu’r corff yn gywir, cyngor ar sut i hyfforddi a gwarchod y corff cyn ac yn ystod perfformiadau ac yn datblygu sgiliau perfformio corfforol, yn ogystal a hyfforddiant mewn ymladd saff ar gyfer y llwyfan. Bydd pob gweithdy dan ofal ymarferwr hyfforddedig, profiadol a staff Theatr Cymru. Caiff y gweithdai ymarferol hyn eu cyflwyno mewn ysgolion, colegau neu ofodau addysgol.
Mae’r gweithdai yma yn ddibynnol ar argaeledd staff ac artistiaid, ond byddwn yn hapus i drefnu gweithdai ar unrhyw adeg sydd yn gyfleus i’r ysgolion ac i ni yma yn Theatr Cymru. Gallwn hefyd drafod pris os yn briodol.
Cysylltwch â'n Cydlynydd Cyfranogi Sian Elin am fwy o wybodaeth: sian.elin@theatr.com