Gweithdy Haf Y Cylch Sialc
Roedd Gweithdy Haf Y Cylch Sialc yn rhan o brosiect peilot i ehangu’r ddarpariaeth o hyfforddiant ym meysydd technegol y theatr i ddisgyblion ysgol uwchradd. Daeth 70 o ddisgyblion draw atom ni yn Y Llwyfan o 4 ysgol leol. Cafwyd sesiynau hyfforddiant gan y tîm creadigol sydd tu ôl i Y Cylch Sialc: Sarah Bickerton, Dyfan Jones a Ceri James.