Pair 

Mae Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan S4C, yn cynnig lle i artistiaid sy’n weithwyr llawrydd yn y sector gelfyddydol i ddod ynghyd i ddatblygu gwaith gwreiddiol.

Y briff? Yn syml, cynnig cyfle i gyd-greu drwy ddyfeisio mewn gofod creadigol.

Bydd hyd at ddeuddeg  o artistiaid sy’n weithwyr llawrydd celfyddydol yn derbyn hyfforddiant a chymryd rhan mewn gweithdai er mwyn dysgu sgiliau ymchwil, dulliau dyfeisio, a sgiliau creu ar y cyd. Yna rhennir y deuddeg yn dri grŵp, a byddant yn treulio wythnos mewn gofod creadigol yn datblygu dau syniad yr un, cyn eu rhannu gyda chynrychiolwyr o Theatr Gen ac S4C, gan dderbyn adborth ar bob syniad.

Y gobaith yw y bydd rhai o’r syniadau a gyflwynir yn arwain at gomisiynau gan Theatr Gen i greu cynyrchiadau theatr byw dyfeisiedig, a allai gynnwys elfennau digidol hefyd. Bydd hefyd yn fodd i artistiaid a chrewyr cynnwys dramataidd o bob math ddatblygu perthynas greadigol a phroffesiynol gyda Theatr Gen ac S4C.

Mae’r cynllun yn agored i bob math o artistiaid: actorion, dramodwyr, awduron, storïwyr, cyfarwyddwyr drama o bob math, cerddorion, cyfansoddwyr, dawnswyr, coreograffwyr, cynllunwyr set a gwisgoedd, cynllunwyr sain a goleuo, artistiaid fideo a mwy.

Mae Theatr Gen ac S4C wedi ymrwymo i wneud y cynllun hwn mor gynhwysol a hygyrch â phosib. Os oes unrhyw rwystr y tybiech chi sy’n eich atal rhag ymgeisio, neu os oes angen unrhyw gefnogaeth neilltuol arnoch, cysylltwch â Theatr Gen i drafod.

---

Manylion:
Ry’n ni’n cynnig cyfle ar gyfer hyd at ddeuddeg artist sy’n weithwyr llawrydd celfyddydol ac yn 18+. Telir naill ai £1,350 yr un ar gyfer 1 wythnos (sef 5 diwrnod) @ £600 x 2 wythnos ac 1 diwrnod @ £150, sef cyfanswm o un diwrnod ar ddeg, neu £1,500 yr un ar gyfer diwrnod ychwanegol o waith, sef cyfanswm o ddeuddeg diwrnod.

Byddwn hefyd yn talu costau mynediad, teithio, llety a chynhaliaeth lle bo hynny’n briodol, ac yn eich cefnogi gyda chyngor proffesiynol, offer, cysylltiadau, ac amser ac arbenigedd ein staff.

---

Amserlen:

Cam 1: Mynegi Diddordeb

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ffurflen, cysylltwch â ni ar creu@theatr.com. Gallwch hefyd gyflwyno cais fideo nad yw’n fwy na 2 funud o hyd at creu@theatr.com neu drwy WhatsApp ar 07908 439417, a bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb hefyd.
Dyddiad Cau: 22 Mawrth 2022, 5yh

Bydd panel dewis yn ystyried y ceisiadau ac yn cytuno ar restr fer; mae aelodau’r panel i’w cadarnhau. Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn clywed oddi wrthym erbyn 28 Mawrth 2022 gyda gwahoddiad i gyflwyno cais llawn.

Cam 2: Cais Llawn (rhestr fer yn unig)

Byddwn yn darparu ffurflen gais, yn ogystal â manylion ynghylch sut i gyflwyno cais fideo, i’r rheiny sy’n cyrraedd y rhestr fer. Byddwn yn cynnig ffi o £50 yr un i aelodau’r rhestr fer wedi iddynt gyflwyno cais llawn.
Dyddiad Cau: 11 Ebrill 2022, 12 hanner dydd

Bydd yr artistiaid yn derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r panel dewis ar naill ai 21 neu 22 Ebrill.

Bydd y panel yn ystyried yr holl geisiadau ac yn cynnig cyfle i’r artistiaid llwyddiannus gymryd rhan yn y prosiect erbyn 25 Ebrill 2022.

---

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Gavin Richards: Gavin.richards@theatr.com

 

Cwestiynau cyffredin - Cliciwch yma

 

Mae Pair yn agored i unrhyw artist yng Nghymru sydd dros 18 oed, yn medru’r Gymraeg neu’n awyddus i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, ac yn artist sy’n weithiwr llawrydd celfyddydol.

 

Bwrsari Datblygu Syniad

Cynllun newydd yw’r Bwrsari Datblygu Syniad sy’n rhoi cyfle i artistiaid sy’n uniaethu â nodweddion penodol ac a gafodd eu tangynrychioli yn ein gwaith, ddechrau datblygu syniad ar gyfer drama neu gynhyrchiad theatr newydd gyda chefnogaeth y cwmni. Mae’r cynllun hwn yn gyfle i ni ddod i adnabod a rhoi cyfleoedd i artistiaid sy’n newydd i’r cwmni, ac i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well yn ei waith.

Isod cewch wybodaeth bellach am y 6 artist sydd wedi derbyn y bwrsari:

Mared Jarman

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Mared yn gweithio ar gomedi drasig am berthynas dau ffrind gorau sy’n ceisio darganfod a deall eu hunaniaeth fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n addoli a blaenoriaethu’r brif ffrwd.

Mae Mared Jarman yn actores ac awdur o Gaerdydd. Bydd yn graddio eleni o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gydag MA mewn actio. Derbyniodd ysgoloriaeth a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru. Mae Mared yn aelod sefydlol o’r cwmni celfyddydol UCAN Productions, sydd wedi ennill sawl gwobr am eu gwaith theatr gyda phlant a phobl ifanc â nam ar eu golwg. Derbyniodd Mared ddiagnosis o’r cyflwr Stargadt’s pan oedd yn ddeg oed. Fel artist ac awdur, mae hi’n ymdrechu i ‘normaleiddio’ anabledd o fewn ein cymdeithas a rhoi platfform i’r lleisiau coll hynny sy’n haeddu cael eu clywed. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys: Double Vision (Gagglebabble mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gŵyl y Llais 2018); Theatr Unnos (Neontopia a Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018); Bachu (Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru).

Yn ddiweddar bu’n creu ffilm fer Cardiff, I Love You gyda’r BBC a Ffilm Cymru Wales, ac ar hyn o bryd mae’n ffilmio Yr Amgueddfa, cyfres newydd Fflur Dafydd a BOOM Cymru i S4C.

Bev Lennon

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Bev yn gweithio ar ddrama am gwpwl rhyngdras (interracial) a’u siwrnai hunan-holi ynglŷn â pherthnasau, hil a hunaniaeth.

Magwyd Bev Lennon yn Llundain ar aelwyd Garibïaidd. Treuliodd gyfnod fel perfformiwr comedi, ac ym 1987 symudodd i’r Barri, lle dysgodd Gymraeg. Roedd hi’n ddysgwr ar Catchphrase (BBC Radio Wales) cyn cael ei sioe ei hun, Bev (BBC Radio Cymru). Daeth yn Athrawes Gymraeg a Swyddog Cydraddoldeb ym 1997. Mae ei gwaith ysgrifennu yn cynnwys sgets comedi teledu i The Real McCoy (BBC), a cherdd ‘The Consultation’ yn y gyfrol Allan o’r Golwg (Disability Arts Cymru). Cafodd ei derbyn i Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2019.

Yn 2020, derbyniodd gyfraniad o Gronfa Gymorth Llenyddiaeth Cymru er mwyn helpu iddi barhau i ysgrifennu ei llyfr ei hun. Hoffai ddatblygu ei gwaith fel sgriptiwr.

Ifan Pleming

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Ifan yn gweithio ar ddarn sy’n edrych ar anabledd mewn ffordd ysgafn a dychanol sy’n adlewyrchu ei ffordd ef, fel unigolyn anabl, o edrych ar y stereoteipio sy’n digwydd yn ein cymdeithas mewn perthynas ag anableddau. Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion Dwyfor, symudodd Ifan i Gaerdydd yn 2005 i astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu’n aelod o dîm Aberhafren ar Dalwrn y Beirdd am rai blynyddoedd. Mae wedi cael llwyddiant mewn eisteddfodau lleol ac ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, yn cynnwys tlws Jennie Eirian, a chipio’r Goron yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. Mae bellach yn byw yn ôl yn Llithfaen, ei bentref genedigol, ac yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cymru.

Emma Daman Thomas

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Emma yn datblygu gwaith newydd i’w berfformio a fydd yn cysylltu cerddoriaeth, iaith a phrofiad diasporig. Mae Emma Daman Thomas yn artist a pherfformiwr aml-ddisgyblaethol sy’n byw yn Sir Faesyfed. Mae hi’n un o aelodau gwreiddiol y band cydweithredol Islet, lle mae’n canu gwahanol offerynau ac yn canu. Fe ymddangosodd drydedd albwm y band ‘Eyelet’ yn 2020 ar label Fire Records. Mae ei gwaith blaenorol i’r theatr yn cynnwys perfformio fel actor-canwr ar gyfer naill Candylion (NTW, 2015) ac Enough is Enough gan Be Aware Productions (2016); a gwaith ymchwil ar gyfer Sisters gan NTW (2017), a oedd yn archwilio hunaniaethau a phrofiadau menywod De Asia yn India ac yng Nghymru. Ymhlith ei phrosiectau cyfredol y mae cyfansoddiad cerddorol arbrofol newydd a gefnogir gan Tŷ Cerdd, a cherddoriaeth ar gyfer Freya Dooley yn arddangosfa Jerwood Arts. Mae Emma hefyd yn creu gwaith celf ar gyfer cerddoriaeth ac mae ei gwaith gweledol yn plethu drwy ei cherddoriaeth, sain, a’i gwaith perfformio. Ar hyn o bryd, mae hi’n dysgu siarad Cymraeg ac yn cael gwersi canu’r delyn.

Kallum Weyman

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Kallum yn gweithio ar ddrama hunllef ddirfodol, ôl-apocalyptaidd. Mae Kallum Weyman yn ddramodydd a chyfarwyddwr anneuaidd, awtistig. Ar hyn o bryd, maen nhw’n astudio cwrs Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes cyfarwyddo theatr gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ysgrifennodd Kallum eu drama ddiweddar, Train Track Issues, dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o Gynllun Egin Awduron The Other Room. Cymraeg yw ail iaith Kallum ac felly maen nhw’n edrych ymlaen at y cyfle i wella eu hysgrifennu yn y Gymraeg. Maen nhw’n mwynhau gweithio ym mhob cyfrwng creadigol ac yn ceisio ysgrifennu darnau hollol wahanol ar gyfer pob prosiect maen nhw’n gweithio arnynt.

Dr Sara Louise Wheeler

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Sara yn gweithio ar Opera Bildungsroman o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, am gymeriad o’r enw Glesni, sy’n dysgu byw yn ei chroen wrth i’r croen hwnnw trawsffurfio, wrth i bopeth newid, ac wrth iddi ddisgyn rhwng dwy stôl: y byd clywedol a’r byd Byddar.

Mae gan Dr Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar ymddangosiad corfforol a’r clyw. Mae Sara wrthi’n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a’u goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, a hynny trwy nifer o gyfryngau ysgolheigaidd a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau, a gwaith celf. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn cynnwys meistroli’r gynghanedd a barddoniaeth arwyddiaith; bydd y rhain yn rhan allweddol o’r opera ‘Y Dywysoges Arian’.

Yn 2020, sefydlodd Sara ‘Gwasg y Gororau’ a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi ‘Rwdlan a bwhwman’, sydd bellach ar gael i’w lawr-lwytho am ddim o wefan Gwasg y Gororau.

Bwrsari Artist a Chymuned

Rydyn ni wedi cynnig 5 bwrsari Artist a Chymuned i artistiaid weithio’n greadigol gyda chymuned arbennig – boed hynny’n gymuned ddaearyddol, proffesiynol, ar-lein neu’n gymuned sy’n rhannu nodweddion o ran hunaniaeth – a rhoi cyfle i bobl yn y gymuned honno brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd ar eu bywydau. Bydd y gwaith cymunedol hwn yn cymryd ffurfiau gwahanol – sgyrsiau gydag aelodau’r gymuned am theatr a’r celfyddydau, rhannu sgiliau gyda’r gymuned neu gychwyn ymchwilio syniad creadigol gyda chymuned.

Isod cewch wybodaeth am y 5 artist sydd wedi derbyn ein Bwrsari Artist a Chymuned:

Caitlin Lavagna

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Caitlin yn gweithio ar gynhyrchiad theatr gair-am-air sy’n seiliedig ar Drychineb Aberfan, yn cynrychioli lleisiau o gymuned arbennig yng Nghymru ac yn ceisio cysur trwy gerddoriaeth i  gymuned dosbarth gweithiol neilltuol sydd wedi dioddef trawma.

Mae Caitlin yn actor-gerddor cyffrous sydd newydd raddio o Goleg Rose Bruford. Mae hi’n 24 oed ac yn dod o’r Porth yng Nghwm Rhondda. Mae ei hyfforddiant wedi caniatáu iddi ddatblygu ei chrefft – nid yn unig fel actor-gerddor ond hefyd fel gwneuthurwr theatr amryddawn ac artist cydweithredol. Mae Caitlin yn gantores ac offerynwraig dalentog ac mae cyfansoddi a chreu cerddoriaeth wrth galon ei gwaith.

Mae Caitlin yn edrych ymlaen at ymchwilio ac ysgrifennu ei chynhyrchiad cyntaf fel actor-gerddor ers iddi raddio, gyda chefnogaeth Theatr Gen yn hybu ei hangerdd dros greu gwaith theatrig sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned.

Wyn Mason

Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Wyn yn bwriadu datblygu drama sy’n ymwneud â’r profiad o atal dweud, wedi ei llunio’n benodol ar gyfer perfformwyr sydd ag atal dweud.

Daw Wyn yn wreiddiol o gefndir ffilm a theledu. Yn 2012/13, ymgymerodd â chynllun hyfforddi cyfarwyddwyr theatr a drefnwyd gan Theatr y Sherman, Living Pictures a Theatr Gen. Cafodd ei ysbrydoli gan y cwrs i sgwennu ei ddrama lwyfan gyntaf, Rhith Gân, a enillodd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol 2015. Ers hynny, mae wedi cwblhau doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol, cael ei ddewis i fod yn Awdur Preswyl yn Theatr Clwyd, ac wedi sefydlu cwmni theatr (Os Nad Nawr) ar y cyd gyda Branwen Davies. Dros yr haf eleni, bydd ei ddrama Gwlad yr Asyn yn teithio Cymru fel cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Rufus Mufasa

Mae straeon hynafol merched wedi’u dwyn a fframweithiau’r theatr yn wrywaidd; fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Rufus yn ymchwilio i ail-osod hyn trwy anrhydeddu’r fframweithiau matriarchaidd sydd wedi bod ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, a’r ffydd a’r cyfeillgarwch y mae pawb wedi’u canfod yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, rapiwr, cantores-gyfansoddwraig, gwneuthurwraig theatr, ac yn fam. O fod yn Gymrawd y Barbican, i Fardd Preswyl cyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau cyfnodau preswyl llenyddol mewn lleoliadau’n amrywio o Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli, i Sweden, y Ffindir, Indonesia, ac yn fwyaf diweddar, Zimbabwe. Fodd bynnag, mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio, a gwaith datblygu rhwng cenedlaethau; yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Fardd ar Bresgripsiwn gyda nhw. Bu’n artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, ac mae ar fin rhyddhau ei llyfr Flashbacks and Flowers, gyda’i hail albwm hefyd ar y ffordd. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, ffeministiaeth a ffydd, a thrawma traws-genhedlaeth neu gaeth.

Elis Pari

Fel rhan o’r bwrsari hwn, bydd Elis yn datblygu taith o amgylch Bodnithoedd, sef fferm ei daid a’i nain, yn adrodd eu hanesion, eu ffordd o fyw a’u hymrwymiad i’w cymdogaeth.

Magwyd Elis ar fferm yng ngogledd-orllewin Cymru. Treuliodd dair blynedd yng Nghaerdydd yn astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae bellach yn byw gartre tra’n astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil (Drama). Fel rhan o’i astudiaethau, mae Elis yn ymchwilio i’r posibiliadau o ddefnyddio’r celfyddydau i geisio mynd i’r afael â’r broblem o ddirywiad yn lles meddyliol amaethwyr cefn gwlad Cymru.

Lis Parsons

Gwraidd prosiect Lis oedd meddwl am y tebygrwydd rhwng y “Welsh Not” a’r dulliau ymddygiadol sy’n cael eu defnyddio heddiw i orfodi plant awtistig i ymddwyn fel petaen nhw’n ‘normal’. Fel rhan o’r bwrsari hwn, mae Lis yn gweithio gydag oedolion awtistig i greu straeon am eu hunaniaeth o’u safbwyntiau nhw, mewn dulliau sy’n addas i bawb.

Chwedleuwr awtistig ac anneuaidd yw Lis Parsons. Mae ganddyn nhw MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Athro ydyn nhw, fel eu mam a’u nain: dwy fenyw gref, ddeallus ac ystyfnig. Garddwyr brwd, mwyn eu natur, roedd eu tad a’u ddau daid, y tad yn beiriannydd a’r teidiau’n lowyr. Cafodd eu magu ar hen straeon o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi creu eu chwedlau eu hunain trwy gydol eu hoes. Ar ôl byw mewn dinasoedd yn ne Cymru a chanolbarth Lloegr, symudodd Lis i gefn gwlad Gwynedd yn 2019.

Am Ddrama - Cyfnewidfa Ddrama Cymru

Ar y cyd â Theatr Clwyd a National Theatre Wales, ry’n ni’n lansio menter newydd i ddarganfod, datblygu a chynhyrchu’r dramâu newydd gorau yng Nghymru. Bydd Am Ddrama / Play On yn galluogi dramodwyr yng Nghymru i gysylltu’n uniongyrchol, ac ar yr un pryd, â thri o’n cwmnïau cynhyrchu theatr mwyaf.

Rydym yn cynnull panel amrywiol o ddarllenwyr, yn cynnwys gweithwyr llawrydd yn ogystal â chynrychiolwyr o’r tri chwmni, i roi adborth ar waith Cymraeg a Saesneg newydd ac i baru’r sgriptiau a’r dramodwyr mwyaf addawol gyda’r cwmni sydd yn y sefyllfa orau i ddatblygu, comisiynu a chynhyrchu eu gwaith.

Bydd darllenwyr yn ymuno â’r cynllun am dymor o chwe mis a bydd y panel yn dod at ei gilydd yn fisol (ar-lein) i drafod y dramâu a gyflwynwyd. Cefnogir darllenwyr gydag arweiniad a chyflwyniad llawn ar y gwaith o ddarllen ac ysgrifennu adroddiadau ar gyfer Am Ddrama.

Bydd pob darllenydd llawrydd yn derbyn ffi o £200 y mis am hyd at ddau ddiwrnod o’u hamser, gan gynnwys cyfarfod misol y darllenwyr. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser ar y darllenwyr o dro i dro (a thelir am yr amser hwnnw) a byddwn yn adolygu’n rheolaidd hyd a lled yr ymrwymiad o fis i fis (e.e., o ran nifer y dramâu a derbynnir).

Mae'r dyddiad cau wedi pasio. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau pellach ar hyn o bryd.

Creu Ar-Lein

[Create Online]

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn ymateb i’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol gyda Creu Ar-lein, sef cyfres o ddramâu neu gyflwyniadau theatraidd gwreiddiol i’w rhannu ar gyfryngau digidol, a pharhad o’i waith datblygu artistig ond gan ddefnyddio cyfryngau digidol. Er mwyn cynnig cyflogaeth i artistiaid yn y cyfnod heriol ac ansicr hwn, ac er mwyn cynnal gweithgaredd dramataidd pan fo’n theatrau ar gau, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda nifer o bartneriaid yn y sector gelfyddydol a’r diwydiannau creadigol er mwyn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol.

CC Bydd Capsiynau Caeedig yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael yn achos rhai o’r dangosiadau hyn.

Comisiynau Digidol Newydd

Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â’r tîm yn National Theatre Wales, ac mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts, wrth gomisiynu artistiaid theatr Cymru i greu theatr fyw ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud.

Gwahoddwyd artistiaid theatr Cymru i greu ymatebion dyfeisgar a chyffrous i’r her hon ac i helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a’u gwneuthurwyr theatr ddod at ei gilydd er ein bod ni ar wahân. Dyma gyfle i artistiaid theatr Cymru ddod o hyd i ymatebion arloesol, cyffrous a dynol i’r her hon ac i helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a’u gwneuthurwyr theatr i ddod at ei gilydd tra byddwn i gyd yn cael ein cadw ar wahân.

Dramâu Micro

Yn y bartneriaeth gyntaf hon o’i math, rydym ni, BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw yn cydweithio i greu Dramâu Micro, sef cyfres o ddramâu byrion i’w cyhoeddi ar blatfformau digidol.

Mae’r dramâu – sy’n para hyd at 5 munud yr un – wedi’u hysgrifennu gan rai o aelodau ein Grŵp Dramodwyr Newydd ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu crefft trwy arbrofi gyda’r cyfrwng digidol.

Sgidie, Sgidie, Sgidie

Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd i gyflwyno darlleniad o’r ddrama gipiodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd.

Sgidie, Sgidie, Sgidie gan Mared Roberts oedd y ddrama fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, ac, mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd, rydym wedi mynd ati i greu cyflwyniad o’r ddrama i’w ddarlledu yn ystod Eisteddfod T eleni. Bydd y ddrama ddigidol – sy’n sôn am ddigartrefedd ar strydoedd Caerdydd – yn cael ei chreu o dan amgylchiadau ymbellhau cymdeithasol a’i chyhoeddi ar blatfformau digidol.

Adar Papur

Rydym yn falch iawn o gynhyrchu cyflwyniad o ddrama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Adar Papur gan Gareth Evans Jones oedd y ddrama fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, ac, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, rydym wedi creu cyflwyniad o’r ddrama i’w ddarlledu yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni. Mae’r ddrama obeithiol hon am golled, iechyd meddwl bregus a chyfeillgarwch annisgwyl, wedi’i chreu o dan amgylchiadau ymbellhau cymdeithasol a’i chyhoeddi ar blatfformau digidol.

Eich Gwaith CHI!

Dweud helô

Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a gweithwyr cefn llwyfan. Mae croeso mawr i chi gysylltu gyda ni i gyflwyno’ch hun. Gadewch i ni wybod am eich gwaith a’ch diddordeb mewn creu neu bod yn rhan o waith yn yr iaith Gymraeg drwy anfon e-bost at creu@theatr.com

Gweld eich gwaith

Gadewch i ni wybod petai yna gyfle i ni weld eich gwaith. Pe medrech chi roi gwybod i ni o leiaf mis ymlaen llaw, fe geisiwn sicrhau bod cynrychiolydd o’r cwmni ar gael i fynychu unrhyw gyflwyniad. Ebostiwch creu@theatr.com gyda’r manylion.

Cyflwyno sgript neu syniad

Rydym yn awyddus iawn i dderbyn ac i ystyried sgriptiau a syniadau gennych chi.

E-bostiwch eich sgript neu fraslun o syniad at: creu@theatr.com. Byddwn yn gyrru e-bost i gydnabod ein bod wedi ei dderbyn ac yn anelu i ymateb o fewn tri mis i ddyddiad yr e-bost hwnnw.

Cynnig cefnogaeth

Mae ein tîm ni yn barod i helpu. Os ydych chi’n awyddus i sgwrsio am wneud cais grant, gofod ymarfer, creu cyllideb, cytundebau, trefnu taith, marchnata, gwaith cyfranogi, prosiect partneriaeth neu unrhyw beth arall ym maes theatr, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni ac fe wnawn sicrhau bod cynrychiolydd o’r cwmni ar gael i sgwrsio gyda chi. Ebostwich creu@theatr.com

Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!

Drws Agored

Ffansi sgwrs am fyd y theatr?

Mae Drws Agored yn gyfle i chi gael sgyrsiau anffurfiol un wrth un dros Zoom, galwad ffôn neu sgwrs destun gydag aelod o staff yn Theatr Gen i bownsio a thrafod syniadau, cyflwyno’ch hun a’n holi ni. Boed yn chwilio am ragor o wybodaeth ynghylch sgriptio, cyflwyno syniadau, cynhyrchu, actio, cyllidebu, cyfarwyddo, rheoli llwyfan, marchnata, cyfleoedd profiad gwaith neu faterion technegol, mae Drws Agored yn gyfle i chi siarad gydag aelod o’n tîm (ceir rhestr lawn o’r staff yma). Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu theatr yn y Gymraeg.

Cysylltwch â ni gan nodi mewn cwpl o frawddegau pam yr hoffech chi sgwrs gyda ni. Bydd hynny’n ein helpu ni i ddewis aelod priodol o’r tîm i sgwrsio gyda chi mewn sesiwn ar ddydd Iau ola’r mis. Rhagwelir y cynhelir y sesiynau hyn rhwng 11am ac 1pm ond gallwn fod yn hyblyg yn unol ag anghenion penodol.

Os hoffech chi drefnu sgwrs drwy’n cynllun Drws Agored, mae croeso i chi ebostio gavin.richards@theatr.com