Ry’n ni wedi ymrwymo i wneud ein sioeau, ein prosiectau, a’n gwaith bob dydd mor hygyrch ag sy’n bosib. Mae pawb yn haeddu profi theatr Gymraeg byw, ac mae’n rhan annatod o’n gwaith i geisio goresgyn y rhwystrau all effeithio ar hynny.
I geisio gwneud ein cynyrchiadau mor hygyrch â phosibl, ry’n ni’n:
- Cydweithio gydag Ymgynghorydd Hygyrchedd Creadigol ar ein cynyrchiadau
- Teithio i leoliadau a chanolfannau sy’n rhan o gynllun hygyrchedd HYNT lle bo’n bosibl
- Cynnal perfformiadau wedi’u dehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar bob cynhyrchiad teithiol
- Darparu hysbysebion hygyrch ar gyfer pob un o’n cynyrchiadau
- Defnyddio capsiynau creadigol dwyieithog neu ap mynediad iaith Sibrwd ym mhob un o’n perfformiadau i sicrhau fod dysgwyr Cymraeg a chynulleidfaoedd b/Byddar yn cael mynediad i’n cynyrchiadau

Ry’n ni’n ceisio gwneud ein gwaith bob dydd mor hygyrch a phosib hefyd. Ry’n ni’n ymdrechu i sicrhau nad oes rhwystrau i unrhyw staff y cwmni neu artistiaid allanol i gydweithio gyda ni, a’i bod hi’n hawdd i bawb gael mynediad i wybodaeth am ein gwaith a’n cynyrchiadau. Fel rhan o’n hymrwymiad, ry’n ni’n:
- Darparu hyfforddiant rheolaidd i’n staff er mwyn iddynt ddatblygu eu hymwybyddiaeth o brosesau gweithio hygyrch a dysgu mwy am y rhwystrau mae rhai pobl yn eu wynebu yn y gwaith ac wrth gael mynediad i’r celfyddydau
- Darparu Ffurflen Mynediad i weithwyr llawrydd i ddysgu mwy am eu gofynion a’r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn ymateb i unrhyw ofynion hanfodol sydd ganddynt ac i hwyluso eu hamser yn gweithio gyda’r cwmni
- Gweithio gydag ymgynghorwyr marchnata hygyrch i sicrhau bod ein gwaith cyfathrebu yn agored a hygyrch i bawb

Wrth edrych i’r dyfodol, ry’n ni’n awyddus i ddatblygu’n dealltwriaeth o arferion hygyrch ac adeiladu ar y gwaith ry’n ni eisoes yn ei wneud. Os hoffech fwy o wybodaeth am ein hymrwymiad i hygyrchedd neu i rannu eich syniadau ar sut y gallwn ni wella’n hymdrechion, cysylltwch â ni.
-
Stori'r Cwmni
Ers 20 mlynedd, mae Theatr Gen wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg a gwaith arbrofol newydd sbon, ac wedi cyflwyno’r cyfan ar lwyfannau traddodiadol ac mewn lleoliadau annisgwyl.
-
Staff y Cwmni ac Ymddiriedolwyr
Dewch i gyfarfod y tîm. Mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni unrhyw bryd am sgwrs.
-
Swyddi a Chyfleoedd
Diolch am ddangos diddordeb mewn gweithio i Theatr Genedlaethol Cymru.
-
Ymgynghorwyr Ifanc
Ry’n ni eisiau cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith ni a rhoi lle diogel iddyn nhw leisio barn a chynnig adborth.
-
Dramodydd Preswyl Ifanc 2023
Dramodydd Preswyl Ifanc 2023- Osian Davies
-
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Er mwyn bod yn gwmni sy’n wirioneddol genedlaethol, mae’n gyfrifoldeb arnom ni i herio’r cysyniad o hunaniaeth Gymraeg sefydlog a dathlu’r croestoriadau o hunaniaethau sy’n bodoli yng Nghymru; i wneud theatr i bawb o bobl Cymru.
-
Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Ry’n ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd. Dyma sut ry'n ni'n ymdrechu i gyflawni ein gwaith mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, lleihau ein ol-troed carbon, a hwyluso sgyrsiau a syniadau sy’n ymdrin ag effaith yr argyfwng hinsawdd ar fywyd yng Nghymru a thu hwnt heddiw.
-
Hygyrchedd
Ry’n ni wedi ymrwymo i wneud ein sioeau, ein prosiectau, a’n gwaith bob dydd mor hygyrch ag sy’n bosib.
-
Sibrwd
Mewn nifer o'n perfformiadau, bydd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael i’ch tywys trwy’r ddrama, os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl neu ddim.
-
Safonau Iaith Gymraeg
Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn ganolog i’r holl rydym yn ei wneud fel cwmni, a hybu a datblygu’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg yw’n prif hamcan fel elusen.