Blodeuwedd

Dehongliad oesol Saunders Lewis o’r hen, hen chwedl sy'n ein hatgoffa mai arf peryglus yw natur yn nwylo dyn.

Blodeuwedd

gan Saunders Lewis

Mae Blodeuwedd yn anniddig, a Llew yn anfodlon. Er iddo drechu tynged ei fam, a chael gwraig wedi’i chreu o flodau, mae’n dal i ysu am etifedd. Ac mae natur wyllt Blodeuwedd yn gwneud iddi deimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun. Pan syrthia Gronw Pebr mewn cariad â hi, daw cyfle o’r diwedd i ddianc . . . ond rhaid yn gyntaf ladd Llew.

Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Blodeuwedd yn Nhomen y Mur, ger Trawsfynydd, yn 2013, cafwyd cyfle arall i weld dehongliad oesol Saunders Lewis o’r hen, hen chwedl ar daith i theatrau yn 2014.  Ac yntau’n cwblhau’r ddrama hon yn fuan wedi’r Ail Ryfel Byd, mae’r awdur yn ein hatgoffa mai arf peryglus yw natur yn nwylo dyn.

Teithiwyd Blodeuwedd dros Gymru yn 2013 ac yn 2014.

TOMEN Y MUR, GORFFENNAF 2013

Cynhyrchiad safle arbennig awyr agored yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd.

TAITH 2014

11 – 12 Chwefror, 2014Theatr y Ffwrnes, Llanelli

14 – 15 Chwefror, 2014Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

17 Chwefror, 2014Pafiliwn Rhyl

19 – 20 Chwefror, 2014
Theatr y Sherman, Caerdydd

Cast

TOMEN Y MUR, 2013:

Morfydd Clark
Rhys Bidder
Iddon Jones
Glyn Pritchard
Non Haf
Martin Thomas
Owain Llŷr Edwards

TOUR 2014:

Rhian Blythe
Rhys Bidder
Carwyn Jones
Glyn Pritchard
Non Haf
Rhodri Sion
Owain Llŷr Edwards

Tîm Creadigol

2013:

Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd: Carl Davies
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones

2014:

Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones
Cynllunydd: Carl Davies
Cynllunydd Goleuo: Ceri James

Gwybodaeth Ychwanegol

Pecyn Addysg

Mae pecyn addysg wedi’i greu gan Carys Edwards i gyd-fynd â’r cynhyrchiad hwn. Gallwch lawrlwytho’r pecyn addysg ar y dudalen hon.

Mae Blodeuwedd ar gael i'w wylio a'i ddarllen ar-lein gyda adnoddau dysgu ychwanegol fel rhan o'r Casgliad Dysgu ar gyfer myfyrwyr ac athrawon.

Clodrestr

Mewn cydweithrediad â CADW a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd
Blodeuwedd