Enfys

Dewch i glywed beth ddigwyddodd nesaf gyda Nick a'i diwtor Cymraeg, Enfys…

Enfys gan Melangell Dolma

Cynhyrchiad BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

 

Ydych chi'n cofio stori Nick, a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo cyntaf? Ydych chi am glywed beth oedd ateb Enfys i wahoddiad arbennig Nick? Fe gewch chi ddod i glywed yr holl hanes yn y tair pennod newydd sbon o Enfys

Yn dilyn llwyddiant y ddrama ddigidol Enfys gan Melangell Dolma, mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyhoeddi bod y bartneriaeth yn parhau, gydag Enfys bellach wedi ei datblygu i fod yn gyfres o bedair drama ddigidol fer.

 

Yn y bennod wreiddiol a ddarlledwyd ar-lein ym Mehefin 2020, cafodd y gynulleidfa rithiol gyfle i gwrdd â’r cymeriad Nick. Fel nifer o bobl oedd ar ffyrlo ar y pryd, aeth Nick ati i ddysgu Cymraeg trwy fynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor, Enfys.

Yn y tair pennod newydd cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl tro trwstan a doniol ar hyd y daith! 

 

Y stori i’w pharhau yn ystod Wythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg Radio Cymru

Daliwch y penodau newydd yn ystod Wythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg Radio Cymru, a gynhelir o 10–15 Hydref 2021, ar dudalennau Facebook BBC Cymru Fyw, BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y gyfres Enfys ar gael yn Gymraeg, ac yn Gymraeg gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Bydd fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) hefyd ar gael ar YouTube Theatr Genedlaethol Cymru. 

 

Mae Enfys yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.

Cast

Nick:  Richard Nichols

Enfys: Catrin Fychan

Julie:  Rhiannon Oliver

Dysgwr 1:  Sian Harkin

Dysgwr 2: Rebecca Hinton

Dysgwr 3:  Judi Davies

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Rhian Blythe

Dramatwrgiaeth: Alice Eklund

Cynhyrchydd: Lois Gwenllian

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn cynnwys iaith gref 

Enfys

Enfys (gyda Iaith Arwyddion Prydain)