Mae Theatr Cymru yn dychwelyd i Gaffi Maes B eleni gyda Wes Wes!
Ffrindiau, crwts a rhocesi y fro, dewch at eich gilydd yng Nghaffi Maes B am awr wyllt o ddireidi a dramâu digri…
---
Pwyllgor Pobol y Preselau
gan Llinos Mai
Mewn lleoliad hollol gyfrinachol (ystafell gefn y garej leol), mae pwyllgor cudd Pobl y Preselau yn ymgynnull i drafod rhywbeth difrifol iawn. Mae Sir Benfro wedi cwympo i rif 8 yn y rhestr “The Top 10 Places to Visit in the UK” ac mae’n rhaid i’r P.P.P. weithredu ar frys os am achub enw da’r ardal.…
Morlo Mwnt
gan Geraint Lewis
Does unman yn well na thraeth Mwnt ym marn Dewi a Meinir. Pan mae’r cwpwl yn sylwi ar forlo yng nghanol y traeth, mae’n rhaid iddyn nhw geisio rhoi stop ar y fisitors dwl sy’n cerdded yn syth tuag ato… ond efallai nad yw popeth fel y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
Cymorth Cyntaf
gan Leo Drayton
Draw â ni i ganolfan gymunedol leol lle mae criw bach yn mynychu cwrs cymorth cyntaf. Ond yng nghanol lapio bandeisiau a drysu CPR a CPJ, mae sgiliau’r cyfranogwyr yn cael eu profi yn gynt na’r disgwyl ar ôl i’r hyfforddwr gwympo’n sâl.
Wedi Swyno
gan Carwyn Blayney
Plymiwch i’r gorffennol, i gyfnod y chwedlau, i gyfnod lle mae’n hynod gyffredin i gwympo mewn i gylch y Tylwyth Teg a diflannu’n llwyr... Ond pan mae Dafydd yn ceisio dychwelyd adre at ei fam, mae’n sylweddoli nad yw’n hawdd dianc rhag y byd hudolus hwn.
Annwfn
gan Grug Muse
Croeso i’r Annwfn, gofod rhwng y nefoedd ac uffern. Ond s’dim giatiau perlog i’w gweld yn unman… Anwen a’i siop trin gwallt sy’n croesawu’r newydd-ddyfodiaid i fywyd tragwyddol a gwneud yn siŵr fod eu gwalltiau nhw’n dwt ar yr un pryd.
---
Awr wyllt o ddramâu comedi byrion, sy'n dilyn llwyddiant aruthrol Wrecslam! (2025), Ha/Ha (2024) a Rŵan/Nawr (2023).
Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.
Dyddiadau’r Daith
-
03 Awst 202618:00Perfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
04 Awst 202618:00Perfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
05 Awst 202618:00Perfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
06 Awst 202618:00Perfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
Cadi Beaufort
Noel Loreto Davies
Rhodri Evan
Gwenllian Higginson
Dramodwyr
Carwyn Blayney
Leo Drayton
Geraint Lewis
Grug Muse
Llinos Mai
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd: Màth Roberts
Dylunydd Set a Gwisgoedd: Lois Prys
Cyfarwyddwr Symud: Jess Williams
Dylunio Graffeg Kelly King
-
Cadi Beaufort
-
Noel Loreto Davies
-
Rhodri Evan
-
Gwenllian Higginson
-
Carwyn Blayney
-
Leo Drayton
-
Geraint Lewis
-
Grug Muse
-
Llinos Mai
-
Rhian Blythe
-
Màth Roberts
-
Lois Prys
-
Jess Williams
-
Cyhoeddi dramâu Wes Wes!
Ffrindiau, crwts a rhocesi y fro, dewch at eich gilydd yng Nghaffi Maes B am awr wyllt o ddireidi a dramâu digri…
-
Wes Wes! Cyhoeddiad Cast a’r Tîm Creadigol
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi’r cast a’r tîm creadigol gwych fydd yn dod â gwaith ein dramodwyr aruthrol i lwyfan Caffi Maes B eleni.
-
Cyhoeddi dramodwyr Wes Wes!
Yn dilyn galwad cenedlaethol, ry'n ni'n falch iawn o rannu'r pedwar dramodydd sy'n rhan o Wes Wes! eleni ac yn cyflwyno dramâu byrion newydd yn Eisteddfod Genedlaethol 2026.