03/07/2026

Cyhoeddi dramâu Wes Wes!

wes wes image

Gyda mis i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, mae Theatr Cymru yn falch iawn o rannu cipolwg o’r dramâu byrion fydd yn rhan o Wes Wes! eleni – gwaith sgwennu newydd gan Llinos Mai, Geraint Lewis, Leo Drayton, Carwyn Blayney a Grug Muse.  

---

Pwyllgor y Preselau gan Llinos Mai  
Mewn lleoliad hollol gyfrinachol (ystafell gefn y garej leol), mae pwyllgor cudd Pobl y Preselau yn ymgynnull i drafod rhywbeth difrifol iawn. Mae Sir Benfro wedi cwympo i rif 8 yn y rhestr “The Top 10 Places to Visit in the UK” ac mae’n rhaid i’r P.P.P. weithredu ar frys os am achub enw da’r ardal...  

Morlo Mwnt gan Geraint Lewis 
Does unman yn well na thraeth Mwnt ym marn Dewi a Meinir. Pan mae’r cwpwl yn sylwi ar forlo yng nghanol y traeth, mae’n rhaid iddyn nhw geisio rhoi stop ar y fisitors dwl sy’n cerdded yn syth tuag ato… ond efallai nad yw popeth fel y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.   

Cymorth Cyntaf gan Leo Drayton 
Draw â ni i ganolfan gymunedol leol lle mae criw bach yn mynychu cwrs cymorth cyntaf. Ond yng nghanol lapio bandeisiau a drysu CPR a CPJ, mae sgiliau’r cyfranogwyr yn cael eu profi yn gynt na’r disgwyl ar ôl i’r hyfforddwr gwympo’n sâl. 

Wedi Swyno gan Carwyn Blayney
Plymiwch i'r gorffennol, i gyfnod y chwedlau, i gyfnod lle mae’n hynod gyffredin i gwympo mewn i gylch y Tylwyth Teg a diflannu’n llwyr... Ond pan mae Dafydd yn ceisio dychwelyd adre at ei fam, mae’n sylweddoli nad yw’n hawdd dianc rhag y byd hudolus hwn.  

Annwfn gan Grug Muse 
Croeso i’r Annwfn, y gofod rhwng y nefoedd ac uffern. Ond s’dim giatiau perlog i’w gweld yn unman…  Anwen a’i siop trin gwallt sy’n croesawu’r newydd-ddyfodiaid i fywyd tragwyddol a gwneud yn siŵr fod eu gwalltiau nhw’n dwt ar yr un pryd. 

---

Dan gyfarwyddyd Rhian Blythe a chyda set a gwisgoedd gan Lois Prys a gwaith symud gan Jess Williams, bydd y cyfan yn dod yn fyw gyda’n cast arbennig: Cadi Beaufort, Noel Loreto Davies, Rhodri Evan a Gwenllian Higginson, yn perfformio ochr yn ochr â’r cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd Màth Roberts.

Yn cynnig awr wyllt o ddramâu comedi byrion, mae Wes Wes! yn dilyn llwyddiant aruthrol Wrecslam! (2025), Ha/Ha (2024) a Rwan/Nawr (2023), gan roi llwyfan i sgwennu newydd a chynnig cyfle i ddatblygu a chynhyrchu gwaith byr Cymraeg newydd. 

Gallwch wylio Wes Wes! yng Nghaffi Maes B am 6pm rhwng 3 a 6 Awst 2026 (o nos Lun tan nos Iau). Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.