Beth yw dy rôl di o fewn Calon a beth mae'r rôl yn ei olygu?
Fi ydi Cyfarwyddwr Calon.
O weithio gyda Caryl a Non a gweddill y tîm creadigol ar y sgript, i’r castio, trafod cynllun set a goleuo, i gynnal ymarferion gyda’r cast a’u harwain nhw drwy’r broses o ddarganfod cymeriadau a gwneud dewisiadau creadigol.
Fi sydd yng ngofal edrych ar y llun yn ei gyfanrwydd. Efo lot o help gan bawb arall wrth gwrs!
Sut mae’r profiad wedi bod hyd yma?
Mae wedi bod yn daith arbennig iawn. Mae’r cydweithio rhwng y tîm wedi bod yn fraint llwyr.
Mae'r amser wedi bod yn fyr ond yr ymroddiad gan bawb wedi bod yn ddibendraw.
Dyma’r sioe gerdd gynta' i mi ei chyfarwyddo felly dwi wedi dysgu andros o lot gan y bobol dalentog o 'nghwmpas i.
Ac mae gwylio’r criw ifanc yn codi croen gwydd - perfformiadau ysgytwol gan bob un.
Dwed mwy i ni am Calon
Sioe gerdd jukebox newydd gyda chaneuon hollol anhygoel CPJ, 60 o bobol ifanc talentog yn y cast a band fyw ar y llwyfan. Mae'n emosiynol, ychydig yn hudolus ac yndi wir, mae'n llawn CALON!
Beth wyt ti’n edrych ymlaen at fwyaf?
Gweld gwaith caled pawb yn dwyn ffrwyth wythnos nesa'.
Dwi’n gobeithio y bydd pawb yn hynod falch o be' mae nhw wedi creu, a bod pawb yn gwybod mor falch ydw i ohonyn nhw i gyd.
Disgrifia’r profiad mewn 3 gair.
Bythgofiadwy. Emosiynol. Dyrchafol.
Pan dwyt ti ddim yn y theatr, beth arall wyt ti'n 'neud?
Darllen nofelau, nofio yn y môr a threulio amser efo teulu a ffrindiau.
Pa gyngor bydde ti'n rhoi i rywun ifanc sy’n cychwyn gyrfa yn y byd theatr?
Ewch i weld theatr bob cyfle bosib, darllenwch ddramâu ac (os oes modd) ewch i goleg drama. Pa gyfle gwell sydd i actor na 3 mlynedd o fireino crefft ac astudio gwahanol arddulliau, gwneud camgymeriadau a dewisiadau mawr a hynny mewn gofod saff?
Dyma sioe gerdd gan Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru.
Bydd Calon yn cael ei berfformio ar 27 - 29 Awst yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Mynnwch docyn i weld y genhedlaeth nesaf o dalent theatrig Cymru a dathlu'r wledd o ganeuon a gyfansoddwyd gan Caryl dros y blynyddoedd.