Roedd cyfle i gynulleidfaoedd Wes Wes yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wneud mwy na gwylio’r sioe; roedden nhw’n helpu i’w phweru.
Cyn pob perfformiad, gwahoddwyd aelodau o’r gynulleidfa i neidio ar un o feiciau Ynni Da a phedlo am ychydig funudau, gan helpu i wefru batri’r allweddell drwy gydol y sioe.
Roedd y fenter yn ffordd syml ond ymarferol o geisio codi ymwybyddiaeth ein cynulleidfaoedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy a ffyrdd amgen o greu pŵer. Yn hytrach na dim ond siarad am faint o egni sydd ei angen i bweru offer trydanol, gallai cynulleidfaoedd deimlo’r ymdrech drostynt eu hunain ac ychwanegu eu hegni eu hunain at y perfformiad.
Trwy gydol yr wythnos, daeth pobl o bob oed (yn cynnwys ambell wyneb cyfarwydd) i roi cynnig ar y beiciau, dysgu mwy am ynni adnewyddadwy a chwarae rhan fach yn y gwaith o wneud i’r gerddoriaeth ganu.
Dywedodd Gareth Bont, ein Pennaeth Cynhyrchu:
“Roedd hi’n wych gweld y gynulleidfa’n mwynhau’r profiad o neidio ar y beics, dysgu mwy am ffyrdd gwahanol o greu pŵer a bod yn rhan o bweru Wes Wes.
I ni yn Theatr Cymru, mae cynaliadwyedd wrth galon ein gwaith o gynllunio a datblygu cynyrchiadau, ac roedd yn braf gallu dod â’r gwaith hwn i’r amlwg ar y Maes eleni, gan wneud ynni cynaliadwy yn rhan o brofiad y gynulleidfa. Diolch i Aled o Ynni Da am weithio gyda ni ar y prosiect, ac am ein helpu i droi’r syniad yma’n realiti.”
Darparwyd y beiciau pweru gan Ynni Da, cwmni sydd wedi bod yn cefnogi ysgolion ledled Cymru ers 2011, trwy ddarparu gweithdai ynni a chynnig cefnogaeth addysg ysbrydoledig, gan gynnwys disgos pŵer pedal.
Dywedodd Aled Vaughan Owen, perchennog Ynni Da:
“Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn profi drostynt eu hunain faint o ymdrech sydd ei angen i gynhyrchu trydan. Dros y pedwar perfformiad, cymerodd dros 120 o bobl ran, gan bedlo cyfanswm o fwy na 250 milltir a chynhyrchu digon o drydan i wefru tua 300 o ffonau symudol.
Dyna sy’n gwneud pŵer pedal mor effeithiol fel ffordd o ddysgu am ynni – rydych chi’n gallu gweld, teimlo a chlywed yr ynni rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae’n ffordd syml, hwyliog ac ysbrydoledig o ddangos bod pob wat yn cyfrif, ac o annog pobl i feddwl yn wahanol am ynni glân a’r rhan y gall pob un ohonom ei chwarae mewn dyfodol mwy cynaliadwy.”
Diolch i bawb a neidiodd ar feic, pedlo, holi cwestiynau ac ychwanegu eu hegni at Wes Wes.
Roedd y prosiect yn rhan o waith ehangach Theatr Cymru i ystyried sut y gellir gwneud theatr yn fwy cynaliadwy, wrth ddod â chynulleidfaoedd i mewn i’r sgwrs mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Cliciwch isod i ddarllen mwy am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.