Mae theatr Gymraeg yn cyrraedd carreg filltir ryngwladol arwyddocaol wrth i Parti Priodas ymddangos Off-Broadway yn Theatr Judith O. Rubin yn Efrog Newydd ar 5 Medi 2026.
Wedi'i ysgrifennu gan Gruffudd Owen a'i gynhyrchu gan Theatr Cymru, mae'r perfformiad hwn yn foment arbennig i theatr Gymraeg, gan ddod â drama gyfoes yn yr iaith Gymraeg i galon un o ganolfannau theatr mwyaf dylanwadol y byd.
Mae Parti Priodas – a enillodd Wobr Theatr y DU am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024 – yn cynnig cyfle prin i gynulleidfaoedd Efrog Newydd brofi darn theatr cyfoes wedi'i berfformio yn y Gymraeg. Bydd y perfformiad Off-Broadway yn dilyn ymddangosiad cyntaf y cynhyrchiad yn yr Unol Daleithiau yn gynharach yn yr wythnos yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, y perfformiad cwbl Gymraeg cyntaf erioed i fod yn brif berfformiad yr ŵyl hon, sy'n cael ei chynnal yn Springfield, Massachusetts eleni.
Yn archwiliad doniol a theimladwy o densiynau teuluol, newidiadau cymdeithasol yng nghefn gwlad a'r ymdeimlad o berthyn, bydd Parti Priodas yn dod â phersbectif unigryw theatr iaith Gymraeg i lwyfan Off-Broadway, gan brofi bod straeon gafaelgar yn atseinio waeth beth fo'u hiaith.
Meddai Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru a chyfarwyddwr Parti Priodas:
"Mae mynd â Parti Priodas Off-Broadway yn foment hanesyddol i’n cwmni. Mae teithio drama arobryn Gruffudd Owen, sy'n ddarlun doniol a thwymgalon o fywyd cefn gwlad Cymru, o gaeau Pen Llŷn i ganol Dinas Efrog Newydd yn freuddwyd go iawn - gan brofi bod gan ein straeon lleol apêl eang.
Un o nodau Theatr Cymru yw cysylltu Cymru â’r byd, ac yn dilyn ein perfformiad yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, rydym yn gyffrous i ddathlu lleisiau cyfoes Cymru yn un o leoliadau theatr mwyaf eiconig y byd. Rydym methu aros i gynulleidfaoedd America fwynhau profi ein hiaith ac adlais diwylliannol dwfn y cynhyrchiad arbennig hwn."
Dywedodd y dramodydd Gruffudd Owen:
“Yn 1928 mi ymfudodd fy nhaid, Solomon Owen i Efrog Newydd am gyfnod cyn i’r Dirwasgiad Mawr ei orfodi i hwylio’n ôl i Lŷn. Diolch byth iddo fo ddod adra achos tasa fo heb, fyddai Parti Priodas ddim yn bodoli a fyddai Theatr Cymru ddim yn gallu danfon drama ei ŵyr bach gwirion i ddinas enwoca’r byd am un parti olaf!
“Cychwynnodd taith Parti Priodas yn 2019 fel dau air wedi ei sgriblo mewn llyfr nodiadau yn ystod cwrs Dramodwyr Newydd Theatr Cymru. Faswn i fyth wedi medru dychmygu bryd hynny y byddai hanes ‘priodas gymysg rhwng mab ffarm o Gymro a Saesnes o Lŷn’ yn cael ei rhannu ar lwyfan yn Efrog Newydd rhyw ddydd. Mae hi wedi bod yn goblyn o daith. Hoffwn i ddiolch o galon i Theatr Cymru am ddangos ffydd mewn awdur newydd ac am gastio dau actor mor wych i ddod â'r ddrama'n fyw.”
Gan ddilyn uchafbwyntiau a helyntion priodas yng nghefn gwlad gogledd Cymru, perfformiwyd Parti Priodas yn wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 cyn taith helaeth i leoliadau ledled Cymru yn 2024. Yna aeth ymlaen i ennill Gwobr Theatr y DU am Ragoriaeth mewn Teithio (“Dyma gomedi a oedd yn ddoniol, yn ddeifiol, yn gyfoes, yn boenus o berthnasol o ran ei themâu, yn diddanu ac yn procio'r un pryd.” Barn). Wedi'i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly, mae'r cast gwreiddiol – Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies – yn dychwelyd i gymeriadau Lowri ac Idris ar gyfer y daith ryngwladol hon. Mae'r tîm cynhyrchu hefyd yn cynnwys Alice Eklund fel Cyfarwyddwr Cyswllt, Luned Gwawr fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Jane Lalljee fel Cynllunydd Goleuo, Sam Humphreys fel Cyfansoddwr a Cêt Haf fel Cyfarwyddwr Symud.
Bydd Theatr Cymru yn cyflwyno Te Angladd gan Gruffudd Owen, y dilyniant hir-ddisgwyliedig i Parti Priodas, ar daith ledled Cymru yng ngwanwyn 2027.
Mae Parti Priodas yn teithio i Ganolfan Cymry Llundain (27 a 28 Awst), Gŵyl Cymru Gogledd America (2 Medi) a Theatr Judith O. Rubin, Efrog Newydd (5 Medi).