Ry’n ni’n falch iawn o groesawu Glain Llwyd fel ein Dramodydd Preswyl Ifanc ar gyfer 2026-27 ar ôl iddi gipio teitl y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Daw Glain Llwyd yn wreiddiol o Dalybont, ger Aberystwyth ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl graddio o gwrs BA Perfformio Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Mynychodd Ysgol Gynradd Talybont ac Ysgol Gyfun Penweddig.
Mae wedi perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc fel aelod o Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a chlybiau drama Cwmni Theatr Arad Goch. Mae Glain yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd ac ym mis Awst bydd yn chwarae un o’r prif rannau yn y sioe gerdd newydd Calon - cynhyrchiad Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru.
Mae Medal Drama Eisteddfod yr Urdd yn cael ei dyfarnu am ysgrifennu sgript wreiddiol ar gyfer drama fer rhwng 15 a 30 munud o hyd ar gyfer un, dau neu dri pherfformiwr. Fel rhan o'r wobr, mae'r enillydd bob blwyddyn yn dod yn Ddramodydd Preswyl Ifanc Theatr Cymru am gyfnod o flwyddyn ac yn derbyn pecyn o gefnogaeth sydd wedi'i deilwra'n arbennig atyn nhw.
Enillodd Glain y wobr am ei drama fer Tishe Plant, sy’n archwilio bywydau a phrofiadau dau berson ifanc mewn ffordd ffraeth, gonest a pherthnasol. Dros y flwyddyn nesaf, bydd Glain yn cael y cyfle i gydweithio ymhellach gyda Theatr Cymru fel Dramodydd Preswyl Ifanc, ac ry’n ni’n gyffrous i gael y cyfle i glywed mwy am ei syniadau fel sgriptiwr.
-
2026-27: Glain Llwyd
-
2025-26: Elin Undeg Williams
-
2024-25: Alys Hedd Jones
-
2023-24: Elain Roberts
-
2022-23: Osian Wynn Davies
-
2021-22: Rhiannon Lloyd Williams