Mae Theatr Cymru yn falch o gyhoeddi’r tîm creadigol fydd yn dod â’r ddrama gomedi newydd, Te Angladd gan Gruffudd Owen, i lwyfannau Cymru yng ngwanwyn 2027. Wedi’i chyflwyno mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon, mae Te Angladd yn ddilyniant i’r ddrama hynod lwyddiannus, Parti Priodas.
Rhian Blythe sy’n cyfarwyddo’r ddrama gomedi newydd yma, gydag Elan Isaac yn cefnogi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Ochr yn ochr â Rhian ac Elan, mae’r tîm creadigol yn cynnwys Livia Jones fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Elanor Higgins fel Cynllunydd Goleuo, Eädyth Crawford fel Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr a Cêt Haf fel Cyfarwyddwr Corfforol. Bydd yr actorion gwreiddiol – Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies – yn dychwelyd i rannau Lowri, Idris a’r holl gymeriadau cofiadwy eraill.
Mae Te Angladd yn ail-gydio yn y cymeriadau hoffus, sgwennu ffraeth a themâu oesol wnaeth ddifyrru cynulleidfaoedd Parti Priodas. Dechreuodd y ddrama gyntaf fel egin syniad i’r dramodydd Gruffudd Owen yn ystod ei gyfnod yn rhan o Gynllun Dramodwyr Newydd Theatr Cymru, cyn cael ei datblygu a’i pherfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ac ar daith ledled Cymru yn 2024 – gan ennill Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio ar gyfer y daith honno. Eleni, daeth Parti Priodas yn ôl ar gyfer daith ryngwladol fer i Lundain, Gŵyl Cymru Gogledd America ac Efrog Newydd – carreg filltir arall i’r cynhyrchiad ac i Theatr Cymru.
Flwyddyn ar ôl digwyddiadau’r ddrama wreiddiol, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto yn Te Angladd, pan mae marwolaeth annisgwyl yn eu gorfodi i wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Galeri Caernarfon ar 23 Chwefror 2027, cyn teithio i theatrau a chlybiau rygbi ledled Cymru tan 20 Mawrth 2027.
Dywedodd Rhian Blythe, Cyfarwyddwr Te Angladd a Chyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru:
“Dwi’n gyffrous iawn i gydweithio â’r tîm creadigol arbennig yma, gan ddod â thalentau Elan, Livia, Eädyth, Elanor a Cêt at ei gilydd i greu byd unigryw, chwareus ac annisgwyl. Ar ôl cydweithio â rhai ohonyn nhw o’r blaen, ac edmygu gwaith eraill ers amser, dwi’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas greadigol a darganfod iaith weledol, gerddorol a chorfforol i’r stori. Mae Mared a Mark yn adnabod y cymeriadau fel cefn eu llaw wrth gwrs, ond bydd y daith yma’n mynd â ni i lefydd tywyllach, o’r ddinas i’r fferm, o’r Greggs ganol nunlla’ i’r capel, gan gyfuno’r hiwmor ac emosiwn yn sgwennu ffraeth Gruff. Dwi’n gwbl argyhoeddedig mai dyma’r tîm gorau i adrodd y stori yma, ac alla i ddim aros i ddechrau arni gyda nhw yn yr ystafell ymarfer.”
Bydd capsiynau agored dwyieithog ar gael yn Theatr y Sherman a bydd capsiynau caeedig dwyieithog ar gael ym mhob perfformiad arall trwy Sibrwd, sef ap mynediad iaith Theatr Cymru.