‘Da chi'n gwybod bod chi'n mynd yn hen pan ‘da chi’n cael eich gwahodd i lai a llai o briodasau ac yn dechrau hel angladdau...
Ar ôl blwyddyn o gyfleoedd coll a thecsts ganol nos, mae llwybrau Lowri ac Idris yn croesi unwaith eto... mewn angladd. Tra bod Lowri’n rhygnu byw ar y fferm ym Mhen Llŷn, mae Idris yn suddo i’w unigedd yn ei dŷ teras tamp yng Nghaerdydd. Ond ar ôl marwolaeth annisgwyl, mae’n rhaid i’r ddau ohonyn nhw wynebu gwirioneddau mawr am eu dyfodol a gofyn y cwestiwn, “be ‘dw i isio go iawn?”
Emynau, teyrngedau a chladdu brechdanau, mae Te Angladd gan Gruffudd Owen yn ddrama gomedi newydd am gariad, galar a gwirioneddau cudd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Parti Priodas, mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn dychwelyd fel Lowri, Idris a’r holl gymeriadau eraill, gyda’r cyfarwyddwr Rhian Blythe wrth y llyw.
Dyma ffarwel i’w gofio!
Cynhyrchiad Theatr Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys iaith gref a themau aeddfed yn cynnwys dibyniaeth ar alcohol a galar
Dyddiadau’r Daith
-
23 Chwef 202719:30RhagddangosiadGaleri Caernarfon
-
24 Chwef 202719:30Perfformiad bywGaleri Caernarfon
-
25 Chwef 202719:30Perfformiad bywGaleri Caernarfon
-
26 Chwef 202719:30Perfformiad bywGaleri Caernarfon
-
01 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
-
03 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
04 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
05 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
08 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr y Garth, Pentre'r Eglwys
-
09 Maw 202719:30Perfformiad bywClwb Rygbi Pontarddulais
-
10 Maw 202719:30Perfformiad bywFfwrnes, Llanelli
-
11 Maw 202719:30Perfformiad bywYr Egin, Caerfyrddin
-
12 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr Felinfach, Dyffryn Aeron
-
15 Maw 202719:30Perfformiad bywClwb Rygbi Dolgellau
-
16 Maw 202719:30Perfformiad bywClwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst
-
17 Maw 202719:30Perfformiad bywTheatr Fach Llangefni
-
18 Maw 202719:30Perfformiad bywPontio, Bangor
-
19 Maw 202719:30Perfformiad bywNeuadd Dwyfor, Pwllheli
-
20 Maw 202719:30Perfformiad bywNeuadd Dwyfor, Pwllheli
Idris a chymeriadau eraill Mark Henry-Davies
Lowri a chymeriadau eraill Mared Llywelyn
Dramodydd Gruffudd Owen
Cyfarwyddwr Rhian Blythe
Delwedd Marchnata Mefus Photography
-
Mark Henry-Davies
-
Mared Llywelyn
-
Gruffudd Owen
-
Rhian Blythe