Calon

Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru yn cyflwyno sioe gerdd wreiddiol newydd.

Sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Caryl Parry Jones, Non Parry, Elan a Miriam Isaac a fydd yn taflu goleuni newydd ar ganeuon Caryl ac yn dathlu'r clasuron a thalent y genhedlaeth nesaf o berfformwyr yng Nghymru

Mae plasdy, Cae’r Lonydd wedi gweld dyddiau gwell. Dod â bywyd newydd i'r lle ydy her y criw ifanc sydd wedi eu taflu at ei gilydd.  Ond er gwaetha'r amheuon a thrwy wên a dagrau, chwerthin a dygnwch,  efallai bod peledr o obaith a chyfle iddyn nhw  brofi eu haf gorau erioed. Nes i ymwelydd arall gyrraedd Cae’r Lonydd i gynhyrfu'r dyfroedd ac i osod yr her fwyaf un...

Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru.

Oedran: 11+ 

Bydd dehongliad BSL ar gael yn ystod rhai perfformiadau.

Dyddiadau’r Daith

  • 27 Awst 2026
    7:30pm
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • 28 Awst 2026
    7:30pm
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • 29 Awst 2026
    2pm
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • 29 Awst 2026
    7:30pm
    Perfformiad byw
    Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Cast

Sil Mali Grigg 

Beth Miri Sion 

Jules Ashton Carter Williams

Twm Fraser Higginson

Elinor Harriet Haylock

Dilly Glain Llwyd

Ben Alys Hedd Jones

Cal Begw Rowlands

Jed Efan Arthur Williams 

Tîm Creadigol

Ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones a Non Parry, gydag Elan Isaac ac Miriam Isaac.

Cyfarwyddwr: Rhian Blythe

Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd: Elan Isaac

Cyfarwyddwr Llais: Miriam Isaac

Cyfarwyddwr Cerdd: Math Roberts

Cynhyrchydd: Branwen Davies