30/04/2026

Calon yn dod â phobl ifanc Cymru at ei gilydd dros y Pasg

Cast photo - in rehearsals.

Dros wyliau’r Pasg eleni, daeth tua 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd am y tro cyntaf ar gyfer ymarferion Calon yn Llangrannog – cynhyrchiad Cwmni Theatr yr Urdd, mewn cydweithrediad â Theatr Cymru. 

Mae Calon yn sioe gerdd gyfoes wreiddiol newydd gan Caryl Parry Jones a Non Parry, wedi ei ddatblygu gyda Elan IsaacMiriam Isaac – sy’n taflu goleuni newydd ar glasuron Caryl ac yn dathlu y wledd o ganeuon a gyfansoddwyd ganddi ar hyd y degawdau. Math Roberts yw’r cyfarwyddwr cerdd, gyda Rhian Blythe – ein Cyfarwyddwr Cyswllt - yn cyfarwyddo'r cynhyrchiad.

Yn serennu yn y cynhyrchiad, mae cast talentog o bobl ifanc sy’n cynnwys Mali Grigg fel Sil, Miri Sion fel Beth, Ashton Carter Williams fel Jules, Fraser Higginson fel Twm, Harriet Haylock fel Elinor, Glain Llwyd fel Dilly, Alys Hedd Jones fel Ben, Begw Rowlands fel Cal ac Efan Arthur Williams fel Jed.

Ochr yn ochr â’r perfformwyr yma, mi fydd band byw ar y llwyfan a mae chwip o gorws yn dod â’r cynhyrchiad a cherddoriaeth wefreiddiol Caryl yn fyw. 

Mae’r corws yn cynnwys: Non Prys, Non Dafydd, Jack Ellison, Elin Higgins, Catrin Haf, Elin Dafydd, Gwilym Morus, Gruff Prys Davies, Deryn Bach Allen Dyer, Joseff Lemon, Osian Dawes, Hawys Owen-Casey, Luned Clement Evans, Hawys Llewelyn-Jones, Martha Rhys, Teifi Harman, Non Humphreys, Ffred Hayes, Mari Edwards, Saran Pugh, Pwyll ap Huw, Martha Davies, Zara Elan, Gwen Roberts, Bethan Nelson, Catrin Aur, Lili Walford, Ella Dieumagard Jones, Courtney Olwen, Orion Summers, Angharad Lliar, Alis Glyn, Iolo Reynolds, Megan Griffiths, Caitlin Bevan, Ifan Rhys Parry, Manon Elster Jones, Katie-Lou Griffiths, Cadi Gerallt, Begw Roberts, Miriam Williams, Myfanwy Morus, Manon Alaw, Gwenan Dickenson, Cerith Manel, Hanna May Lovesey, Beti Mai Williams, Betsan Gwawr Lewis.

Plasdy Pencae’r Lonydd yw lleoliad y sioe – lle mae criw ifanc yn ymgasglu i ddod â bywyd newydd i’r hen le. Mae cyfle i'r criw wneud ffrindiau bore oes a phrofi eu haf gorau erioed. Ond mae'r sialens sy'n eu hwynebu yn ystafell olaf y plasty yn profi eu cyfeilgarwch newydd i'r eithaf.

Ry’n ni methu aros i weld y cynhyrchiad hwn yn datblygu, dan arweiniad Rhian – pob lwc i bawb!

Bydd Calon – cynhyrchiad Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru – yn cael ei berfformio yn Theatr Donald Gordon, Canolfan y Mileniwm, rhwng 27 – 29 Awst 2026.

Mae tocynnau ar gael i’w harchebu nawr trwy Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.

Lluniau gan Celf Calon.