14/05/2026

Cyhoeddi dramodwyr Wes Wes!

wes wes image

Yn dilyn galwad cenedlaethol, mae Theatr Cymru yn falch iawn o rannu'r pedwar dramodydd sy'n rhan o Wes Wes! eleni: Carwyn Blayney, Leo Drayton, Geraint Lewis a Grug Muse - gyda Llinos Mai yn ysgrifennu prolog ac epilog i bontio'r dramâu.

Yn dilyn llwyddiant aruthrol Wrecslam! (2025), Ha/Ha (2024) a Rwan/Nawr (2023), bydd Wes Wes! yn cynnig awr wyllt o ddramâu comedi byrion yng Nghaffi Maes B, gan roi llwyfan i sgwennu newydd gan awduron theatr Cymraeg.

Yn dod â’u talent, dychymyg a direidi i Gaffi Maes B eleni...  

Yn wreiddiol o Geredigion, mae Carwyn Blayney yn gomediwr sydd wedi ysgrifennu ar amryw o raglenni comedi ar gyfer BBC Radio Four, Wales a Scotland, yn ogystal â’r ddrama gomedi Wisgi gyda Chwmni Theatr Bara Caws yn 2025.

Mae Leo Drayton yn awdur cwiar o Gaerdydd ac, yn ddiweddar, cafodd eo ddrama lwyfan gyntaf Dynolwaith (Frân Wen) ei chynnwys yn rhestr The Stage o'r 50 drama gorau yn y Deyrnas Unedig yn 2025.

Daw'r awdur Geraint Lewis o Dregaron ac mae'n dychwelyd i'r cynllun hyn o ysgrifennu ar ôl i'w gomedi fer Byd Donna Tan y Pandy gael ei berfformio fel rhan o gynhyrchiad Ha/Ha!, Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.  

Bardd ac awdur o Ddyffryn Nantlle yw Grug Muse, sy'n rhan o dîm Cyhoeddiadau'r Stamp. Daeth ei chyfrol Merch y Llyn yn fuddugol yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn Barddoniaeth yn 2022.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae Llinos Mai yn awdur comedi, cyfansoddwr caneuon a pherfformiwr arobryn ac mae ei gyrfa ysgrifennu helaeth yn cynnwys sioeau The Harri-Parris, Meiddio Meddwl ac Anthem 

Mae'r dramodwyr llwyddiannus bellach wrthi'n datblygu’r sgriptiau gyda chefnogaeth Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru, Rhian Blythe. Dywedodd Rhian:

“Mae’n fraint enfawr cael bod yn rhan o’r prosiect arbennig hwn unwaith eto eleni. Braf ydi cael cynnig cyfleoedd datblygu i ddramodwyr am y pedwerydd blwyddyn yn olynol, ac mae gweithio ochr yn ochr â'r dramodwyr hyn yn gwneud y broses yn un wirioneddol gyffrous. Mae’r dramâu eleni yn llawn hiwmor, egni a chymeriad, ac alla i ddim aros i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd yr Eisteddfod mewn noson fydd, gobeithio, yn llawn chwerthin a mwynhad”. 

Gallwch wylio Wes Wes! yng Nghaffi Maes B am 6pm rhwng 3 a 6 Awst 2026 (o nos Lun tan nos Iau). Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.

Byddwn yn cyhoeddi’r cast yn fuan – cadwch lygad allan!