Cyflwynir Tremolo drwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio drwy Ewrop ar y trên gyda’i ffrind, yna mynd i’r Brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn llawfeddyg ym maes niwroleg. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd yn troi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Clefyd Alzheimer Teuluol sy’n dechrau’n gynnar. O ran geneteg, mae siawns 50% y bydd ef a Gwenllian, ei chwaer iau, hefyd yn dioddef o’r cyflwr yn y dyfodol. Cawn wybod am effaith y cyflwr creulon hwn ar berthynasoedd teuluol, pwysau ariannol, bywyd bob dydd, a gobeithio am y dyfodol.
Sut i wrando
Pecyn addysg
Gareth Elis: Harri
Dramodydd: Lisa Parry
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Cyfansoddwr a Thelynores: Eira Lynn Jones
Golygu a chynllunio sain: Rhys Young ar ran Hoot Studios
Dramatwrg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol: Branwen Davies
Cerddoriaeth Ychwanegol: Drwy Dy Lygid Di, cyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Yws Gwynedd
Rhagor o wybodaeth am y cyflwr:
Alzheimer’s Research UK: https://www.alzheimersresearchuk.org
Alzheimer’s Society: https://www.alzheimers.org.uk/
Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.