Sioeau Mewn Partneriaeth

Ry'n ni'n falch iawn o'r cyfle i gydweithio gyda sefydliadau a chwmnioedd gwahanol. Gweler isod rhai o'n sioeau mewn partneriaeth ar hyn o bryd!

Betty Campbell - Darganfod Trebiwt

Cynhyrchiad Mewn Cymeriad gyda chefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru

Pwy oedd Betty Campbell? A beth sydd mor arbennig am ei chartref, Bae Teigr? Dewch i ddysgu am y ddynes Gymraeg hanesyddol gyntaf a chafodd ei dathlu drwy gerflun yng Nghymru gyda chwmni Mewn Cymeriad.

Pobol; Cymuned; Calon. Croeso i Fae Teigr!

Tremolo

Cynhyrchiad Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a Wales Gene Park.

Drama bodlediad a'i gyflwynir trwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd yn troi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Clefyd Alzheimer Cychwyn Cynnar Teuluol. O ran geneteg, mae siawns 50% y gall ef a Gwenllian, ei chwaer iau, ddatblygu’r cyflwr yn y dyfodol. Cawn wybod am effaith y cyflwr creulon hwn ar berthynasoedd teuluol, pwysau ariannol, bywyd bob dydd, a gobeithio am y dyfodol.

Popeth ar y Ddaear

Cyd-gynhyrchiad Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Am y tro cynta’ erioed - ac am un noson yn unig - bydd Maes B yn cael ei drawsnewid yn lwyfan theatr byw.

Bydd cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol.

Golygfeydd o'r Pla Du

Cynhyrchiad Theatrau Sir Gâr, wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru

Comedi ddireidus, tywyll am argyfwng a llygredd wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Chris Harris. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.