Dwy (Two)

Dwy chwaer. Dwy ddramodwraig newydd. Dwy ddrama.

Dwy (Two)

Dwy chwaer. Dwy ddramodwraig newydd. Dwy ddrama.

Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru

Darlleniad cyhoeddus o ddwy ddrama fu’n fuddugol yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: ‘Ansh’ gan Lois Llywelyn Williams (2016) a ‘Lôn Terfyn’ gan Mared Llywelyn Williams (2017). Mae’r darlleniad yn rhan o raglen Theatr Gen Creu, menter newydd Theatr Genedlaethol Cymru, sy’n cefnogi talent, yn datblygu crefft theatr, ac yn cynnig cyfleoedd arbennig i artistiaid yng Nghymru.

‘Ansh’ gan Lois Llywelyn Williams
“Ma’r ’fala ’ma’n Instagrammable . . . falla chei di mo’r blas i ddechra; jesd gwitsia iddo fo gicio mewn.”

Mae’r Efa ifanc newydd ddarganfod gwifren sy’n arwain at afalau cochion, llachar ac yn mynnu bod yr Adda ifanc yn cymryd brathiad. Ond mae’r goeden afalau’n codi arswyd ar yr Efa hŷn, a does gan yr Adda hŷn ddim dant i gnoi’r un afal beth bynnag!

Drama ffres a chwareus sy’n dangos pa mor gyflym a llwyr mae technoleg yn gallu rheoli’n bywydau.

‘Lôn Terfyn’ gan Mared Llywelyn Williams
“Ti’m yn gwbod be ma’u hannar nhw’n neud ’ma. Hidden agendas. Ma nhw’n casglu yn y llefydd ’ma, sdi? Yng nghefn gwlad.”

Mae Sara wedi symud i fyw at Tom, ei chariad, ond Ramin – y dyn sydd wedi symud i mewn i’r tŷ cyngor dros y ffordd – sy’n mynd â’i sylw. Mae Ramin wedi dianc i’r pentref o Gaerdydd, ac mae gan Tom ei amheuon amdano. Wedi’i hysbrydoli gan yr hinsawdd wleidyddol bresennol, dyma ddrama newydd, eofn sy’n archwilio mewnfudo a rhagfarnau mewn byd bregus, llawn tensiynau.

Mae’r cyflwyniad hwn yn rhan o dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Tymor o waith newydd cyffrous, pwerus a chanmoliaethus a’r gorau oll mewn theatr a pherfformio cyfoes gyda rhaglen ffraeth o gomedi, cabaret, cerddoriaeth, y gair llafar a nosweithiau llwyfan agored.

 

Clodrestr

Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru