X

“Cyn gynted â ma’r enw ‘Cymru’ yn ca’l ei delet’o, that’s it am byth.”

X

gan Rhydian Gwyn Lewis

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith

 

“Cyn gynted â ma’r enw ‘Cymru’ yn ca’l ei delet’o, that’s it am byth.” 

Y flwyddyn yw 2039. Mae’r Alban yn annibynnol, yr Iwerddon yn unedig, ac mae Cymru ar fin pleidleisio mewn refferendwm i benderfynu ei dyfodol. A fydd y bobl yn dewis uno gyda Lloegr i greu gwladwriaeth newydd? Ai dyma’r diwedd ar Gymru?

Daw criw bychan o bobl ifanc at ei gilydd yng ngweddillion hen dafarn y Grange yng Nghaerdydd i gynllwynio i atal y bobl rhag bwrw eu croes. Ond i ba eithaf yr ânt i warchod eu hunaniaeth? A fydd y Ddraig yn deffro o’i thrwmgwsg?

 

Dyma ddrama newydd gyffrous gan Rhydian Gwyn Lewis – drama fuddugol Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Cyfarwyddwr: Ffion Dafis

Cast: Saran Morgan, Garmon Rhys, Manon Wilkinson, Tomos Wyn

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Dyddiadau’r Daith

  • 03 Awst 2019
    7pm
    Live performance
    Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst
  • 04 Awst 2019
    7pm
    Live performance
    Theatr y Maes, Conwy County National Eisteddfod
  • 06 Awst 2019
    7pm
    Live performance
    Theatr y Maes, Conwy County National Eisteddfod
  • 08 Awst 2019
    7pm
    Live performance
    Theatr y Maes, Conwy County National Eisteddfod
  • 09 Awst 2019
    7pm
    Live performance
    Theatr y Maes, Conwy County National Eisteddfod
Cast

Saran Morgan, Garmon Rhys, Manon Wilkinson, Tomos Wyn

 

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Ffion Dafis

Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Dyfan Jones

Cynllunydd Goleuo: Ceri James

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans

Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Gethin Roberts (aelod o gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker)

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw oed: 14+

Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.

Clodrestr

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith

X
X
X
X