Digwyddiad Ar y Dibyn

Rhannu a dathlu prosiect Ar y Dibyn.

Fe’ch gwahoddwn chi’n gynnes iawn i ddigwyddiad sy’n rhannu, a dathlu, gwaith ein prosiect cenedlaethol celf, iechyd a lles Ar Y Dibyn.

Mae Ar y Dibyn yn brosiect sy’n gyfres o sesiynau creadigol awr a hanner wythnosol sy’n digwydd wyneb yn wyneb ac yn ddigidol ar draws Cymru lle mae artistiaid gyda phrofiad bywyd yn cefnogi‘r rheiny ohonom sy’n byw gyda dibyniaeth o bob math i weld posibiladau’r dyfodol.

Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn ond gallwch gyfrannu at waith ein cwmni, sy’n cynnwys prosiectau fel hyn: Cyfrannu yma

 

Rhaglen (awr a hanner o hyd)

Dangosiad ffilm, perfformiad byr, arddangosfa a sgwrs banel gyda Iola Ynyr, Carwyn Jones a Rhiannon Mair (Swyddog Camddefnyddio Sylweddau)

Dyddiadau’r Daith

Middle aged woman sits at a table surrounded by water bottles, note pad and pen. She has her hand up and her mouth is slightly open. She is staring off camera.
4 people sat round a table. On the table different arts and crafts materials and scraps of paper are scattered. One of the people is standing up looking down at another person's work and pointing at it.