Rhwydo / Vangst

Mae dyheadau’n cael eu teimlo i’r byw, ac ofnau’n treiddio hyd at yr asgwrn yn y darn hynod hwn o theatr gorfforol o’r Iseldiroedd o waith yr artist unigryw Roos van Geffen.

Rhwydo / Vangst 

CASGLU OFNAU A DYHEADAU

Cynhyrchiad theatr gorfforol amlieithog

GAN ROOS VAN GEFFEN & THEATR GENEDLAETHOL CYMRU, MEWN CYDWEITHREDIAD Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU


Mae dyheadau’n cael eu teimlo i’r byw, ac ofnau’n treiddio hyd at yr asgwrn yn y darn hynod hwn o theatr gorfforol o’r Iseldiroedd o waith yr artist unigryw Roos van Geffen. Gydag addasiad Cymraeg gan y llenor arobryn Angharad Price, daw Theatr Genedlaethol Cymru â’r cynhyrchiad rhyfeddol hwn i gynulleidfa Gymreig. Cyflwynir y cyfan mewn theatr deithiol bwrpasol wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer y perfformiad, a hynny mewn tair iaith – Cymraeg, Iseldireg a Saesneg.

Bu Roos yn nodi dyheadau ac ofnau pobl ar draws Ewrop, gan ddefnyddio’r straeon personol hyn i greu darn o waith didwyll a thelynegol sy’n treiddio i hanfod y bod dynol. Bydd yn gwau iddo ddyheadau ac ofnau a gesglir ar hyd a lled Cymru yn ystod y daith.

DYDDIADAU

Perfformiwyd Vangst/Rhwydo yn 2013 yn Yr Hen Lawnt Fowlio ym Mangor a Chanolfan y Mileniwm, cyn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych yn 2013

26 – 29 Mehefin, 2013
Yr Hen Lawnt Fowlio, Bangor

3 – 6 Gorffennaf, 2013
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

3 – 7 Awst, 2013                                                                                                      Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, Dinbych

 

Clodrestr

MEWN CYDWEITHREDIAD Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU

Rhwydo