Estron

Gliniadur, tun o siocledi Quality Street, ac awdur yn chwilio am ei ddrama mewn bydysawd diderfyn.

Estron
gan Hefin Robinson

Mae digwyddiadau ysgytwol diweddar wedi troi byd Alun ben i waered, ond yn y tywyllwch mae’n ceisio cysur gan ymwelydd o fyd arall.

Drama newydd amgen ar gyfer y genhedlaeth hon gan un o’n hawduron ifanc mwyaf disglair, ac enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Llwyfannwyd Estron am y tro cyntaf yn y Cwt Drama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. Dyma gyfle prin i weld gwaith buddugol y Fedal Ddrama ar daith genedlaethol.

“Ro’n i’n ddagrau i gyd, a gwên lydan ar fy ngwep, pan saethais ar fy nhraed ar ei diwedd . . . Dyma ddrama bwerus . . . y mae’n rhaid ei phrofi.” Lowri Cooke

Cast

Cast:

Gareth Elis (Alun)

Ceri Elen (Han)

Iwan Garmon (eilydd – Alun)

Elin Llwyd (eilydd – Han)

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr: Janet Aethwy.

Gwybodaeth Ychwanegol

Sgyrsiau cyn ac ar ôl taith Estron

Isod ceir rhestr o sgyrsiau cyn ac ôl sioe taith Estron.

Theatr y Glowyr, Rhydaman:

  • Sgwrs wedi’r sioe 19 Ebrill

Pontio, Bangor:

  • Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe, 8 Mai

Canolfan Morlan, Aberystwyth:

  • Sgwrs wedi’r sioe, 9 Mai

Chapter, Caerdydd:

  • Sgwrs i ddysgwyr cyn sioe, 14 Mai
  • Sgwrs wedi’r sioe, 15 Mai

Galeri, Caernarfon:

  • Sgwrs wedi’r sioe, 19 Mai

Estron

Estron
Estron
Estron