Chwalfa
Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, Bethesda (1900 – 1903) yw’r anghydfod diwydiannolhiraf yn hanes y Deyrnas Unedig, a chefndir nofel fawr T Rowland Hughes. Rhwygwyd cymuned, chwalwyd teuluoedd, a gwelwyd dioddefaint fel na fu o’r blaen. Ond roedd yna ddewrder hefyd a phobl yn sefyll dros egwyddor a hawl a thegwch. Trwy’r cyfan, yn wyneb brad a chaledi, roedd yna chwerthin a chanu, ac yn fwy na dim, roedd yna frawdgarwch.
Bydd aelodau o’r gymuned leol yn ymuno â chast proffesiynol i ddod â’r cyfan yn fyw, wrth i Edward Ifans a’i deulu wynebu’r her fwyaf yn eu hanes.
Cyfrannodd chwarelwyr Gogledd Cymru o’u cyflogau prin i godi prifysgol a mynnu gwell i’w plant. Dyma stori enwocaf yr arwyr hynny, i ddathlu agoriad theatr odidog newydd wrth droed y coleg hwnnw.
17 – 27 Chwefror, 2016
Lisa Jên Brown
Sion Emyr
Dyfrig Evans
Mark Flanagan
Robin Griffith
Gwenno Hodgkins
Morfudd Hughes
Elain Lloyd
Ceri Murphy
Emyr Roberts
Rhodri Trefor
Llion Williams
Seliwyd ar nofel gan- T Rowland Hughes
Addaswyd gan- Gareth Miles
Cyfarwyddwr- Arwel Gruffydd
Cynllunydd- Cai Dyfan
Cyfansoddwr, Cynllunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerdd- Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo- Elanor Higgins
Cynllunydd Fideo- Louise Rhoades-Brown
Hyfforddwr- Llais Nia Lynn
Cyfarwyddwr Ymladd- RC Annie
Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen
Addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd