Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio
Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran
Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow
Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys.
Mae Pijin yn dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos. Dychymyg, straeon a geiriau yw’r unig ffordd o oroesi. Ond un dydd, nid yw geiriau’n ddigon. Mae ei waliau’n chwalu’n deilchion a bywyd yn newid am byth.
Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.
Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus ‘Pigeon’ gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.
Canllaw Oedran: 13+ (Yn cynnwys iaith gref a themâu o drais yn y cartref)
Dyddiadau’r Daith
-
27 Chw 202319:30RhagddangosiadPontio
-
28 Chw 202319:30RhagddangosiadPontio
-
01 Maw 202319:30Perfformiad bywPontio
-
02 Maw 202319:30Perfformiad bywPontio
-
03 Maw 202319:30Perfformiad bywPontio
-
07 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr y Sherman
-
08 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr y Sherman
-
09 Maw 202314:00Perfformiad bywTheatr y Sherman
-
09 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr y Sherman
-
10 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr y Sherman
-
14 Maw 202319:30Perfformiad bywFfwrnes, Llanelli
-
15 Maw 202319:30Perfformiad bywFfwrnes, Llanelli
-
17 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr Mwldan, Aberteifi
-
18 Maw 202319:30Perfformiad bywTheatr Mwldan, Aberteifi
-
21 Maw 202319:30Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
-
22 Maw 202319:30Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
-
24 Maw 202319:30Perfformiad bywGaleri, Caernarfon
-
25 Maw 202319:30Perfformiad bywGaleri, Caernarfon
Pijin Owen Alun
Iola Elin Gruffydd
Cher Nia Gandhi
Gwyn/Him/Elfyn (a chymeriadau eraill) Carwyn Jones
Mam/Efa (a chymeriadau eraill) Lisa Jên Brown
Awdur y nofel Alys Conran
Addasiad llwyfan Bethan Marlow
Cyfarwyddwr Lee Lyford
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Carl Davies
Cynllunydd Fideo Hayley Egan
Cynllunydd Goleuo Ceri James
Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Melangell Dolma
Cynllunydd Cynorthwyol Ola Klos
Cyfarwyddwr Symud Eddie Ladd
Gweithdy Sgript – O’r Llyfr i’r Llwyfan
Canllaw oed: CA4 +. Byddwn yn teilwra’r gweithdy yn ddibynnol ar oed.
Cyfle gwych i ddisgylion a myfyrwyr archwilio'r sgript a chael gweithdy creadigol gydag awdur yr addasiad llwyfan, Bethan Marlow. Gall ddigwydd wyneb yn wyneb yn eich ysgol/prifysgol chi, neu yn y ganolfan perfformio, neu ar-lein, yn ddibynol ar argaeledd.
Cysylltwch â Sian.Elin@theatr.com am fwy o wybodaeth.
Fideos
-
Taflen Sain Ddisgrifio Cymraeg