Nansi

O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.

Nansi

Gan Angharad Price

 

Yn y 1920au, a hithau ar anterth ei gyrfa, mae telynores enwocaf Cymru’n sefyll ar groesffordd. A oes lle i gariad arall yn ei bywyd – cariad heblaw’r delyn?

Hyd heddiw, mae’r chwedloniaeth am ei bywyd lliwgar a chythryblus mor fyw ag erioed. Dyma ddynes oedd yn barod i herio confensiwn, gan dorri’i chwys ei hun.

Drama newydd gan Angharad Price sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.

Perfformiwyd Nansi ar 3 – 7 Awst, 2015 yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion

 

telyn
dadl
poeni
Cariad