Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd.
Mae’r ddau bâr yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.
Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.
Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu. Dyma ddarn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.
Cyhoeddiad taith yn fuan
Canllaw oed 14+ (Os hoffech mwy o fanylion am y canllaw oed, cysylltwch a Sian Elin ar sian.elin@theatr.com)
I'w cyhoeddi
Gan Eleanor Bishop a Karin McCrack
Cyfarwyddwr Juliette Manon
Mewn cydweithrediad ag Aurora Nova
Comisiynwyd Ie Ie Ie yn wreiddiol gan Auckland Live
Delwedd a Dylunio Graffeg Kelly King Design