Nansi

O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol.

Nansi

 

Ar yr ysgwydd chwith mae canu’r delyn, a’r miwsig yn mynd o’r galon, trwy’r bysedd, yn syth at y tant.

O Faldwyn i Lundain ac yna i America, doedd dim llawer yn rhwystro Nansi rhag mentro, wrth iddi swyno’i chynulleidfaoedd â’i dawn a’i hysbryd rhyfeddol. Yn y 1920au a’i gyrfa ar ei hanterth, mae telynores enwocaf Cymru’n sefyll ar groesffordd. A oes lle i gariad arall yn ei bywyd – cariad heblaw’r delyn?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015, dyma gyfle eto i weld y ddrama hon ar daith sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.

 

Gwybodaeth i gynulleidfa

Os ydych chi’n dod i weld Nansi dyma wybodaeth i’ch paratoi ar gyfer y sioe;

– Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i’r perfformiad gychwyn, ac fe fydd bar yn y lleoliad yn gwerthu diodydd alcohol a di-alcohol. Bydd y bar yn cau hanner awr wedi’r perfformiad.

– Os ydych wedi archebu eich tocyn o flaen llaw ond heb dalu amdano, bydd angen i chi gyrraedd 10 munud cyn i’r perfformiad gychwyn neu bydd gennym yr hawl i werthu eich tocyn.

– Nid oes rhif i bob sedd felly bydd modd i chi eistedd ble bynnag yr hoffech chi. Mae rhai cadeiriau yn stolion a rhai eraill gyda chefn. Os ydych yn bryderus am hyn mae croeso i chi gysylltu gyda ein Pennaeth Marchnata; lowri@theatr.com / 01267 245617.

– Bydd y sioe yn cychwyn ar amser. Lle mae’n bosib, byddwn yn gadael rhai sydd yn cyrraedd yn hwyr i mewn i’r theatr ond dim ond am 10 munud wedi i’r sioe gychwyn. Wedi hynny, ni fydd modd cael mynediad i’r theatr.

– Mae’r sioe yn cynnwys defnydd o fŵg llwyfan a golau yn fflachio. Bydd dau stiward ymhob perfformiad – un wrth y prif ddrws ac un wrth allanfa dân.

– Os hoffech drafod hygyrchedd y perfformiadau, cysylltwch â’r Cynhyrchydd Gweithredol; rhian.davies@theatr.com / 01267 233882.

– Ceir pecyn ar gyfer dysgwyr Cymraeg i gyd-fynd â chynhyrchiad Nansi, i’w lawrlwytho yma;

Cast

Cast
Melangell Dolma – Nansi
Gwyn Vaughan Jones – Y Tad
Betsan Llwyd – Y Fam a chymeriadau benywaidd eraill
Martin Thomas – Cecil a chymeriadau gwrywaidd eraill

Tîm Creadigol

Tîm Creadigol
Awdur
– Angharad Price
Cyfarwyddwr – Sarah Bickerton
Cynllunydd – Carl Davies
Cyfansoddwr, Cyfarwyddwr Cerdd a Chynllunydd Sain – Dyfan Jones
Cynllunydd Goleuo – Joe Fletcher
Cynllunydd Sain Cyswllt – Gareth Brierley
Cynllunydd Cynorthwyol – Erin Maddocks

Gwybodaeth Ychwanegol

08 – 10 Mehefin, Neuadd Goffa Cricieth (Tocynnau – Newsday Cricieth – 01766 522 491)
15 – 17 Mehefin, Institiwt Llanfair Caereinion (Tocynnau – Menter Maldwyn – 01686 610 010)
*Sgwrs ar ôl sioe nos Iau yr 16eg o Fehefin
22 – 24 Mehefin, The Paget Rooms, Penarth (Tocynnau – Foxy’s Deli – 029 2025 1666)
*Sgwrs ar ôl sioe nos Iau y 23ain o Fehefin
28 – 30 Mehefin, Neuadd Goffa Aberaeron (Tocynnau – Theatr Felinfach – 01570 470 697)
*Sgwrs ôl sioe nos Fercher y 29ain o Fehefin
05 – 07 Gorffennaf, Neuadd y Tymbl (Tocynnau – Menter Cwm Gwendraeth Elli – 01269 871 600)

Ceir dyddiadau llawn, amseroedd a manylion gwerthu tocynnau isod, tuag at gwaelod y dudalen yma;

Pecyn Dysgwyr Nansi

 

Sgyrsiau cyn / ôl sioe
Cynhelir sgyrsiau cyn ac ôl sioe er mwyn cynnig mwy o wybodaeth am gefndir Nansi Richards ac am y broses o greu’r cynhyrchiad. Mae’r sgyrsiau am ddim ac mae croeso cynnes i bawb. Ceir manylion llawn yma;
16 Mehefin, Institiwt Llanfair Caereinion
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Siân James.
22 Mehefin, Foxy’s Deli, Penarth
6.30 – 7.00pm: Sgwrs cyn sioe am hanes Nansi Richards yng nghwmni Mair Penri. Am ddim ond lle i nifer cyfyngedig – i archebu eich lle cysylltwch â Foxy’s Deli; 029 2025 1666
23 Mehefin, Paget Rooms, Penarth
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Siân Summers.
29 Mehefin, Neuadd Goffa Aberaeron
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast a’r cyfarwyddwr, wedi ei gadeirio gan Anwen Jones.
06 Gorffennaf, Neuadd y Tymbl
9.10 – 9.30pm: Sgwrs ôl sioe gyda’r cast, wedi ei gadeirio gan Catrin Beard.