Nyrsys

Gan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi troi yn 70 oed yn 2018, cafwyd gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru fodern, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn.

Nyrsys

 

Gan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi troi yn 70 oed yn 2018, cafwyd cipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru fodern, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn. Rhoddodd y ddrama hon lwyfan i brofiadau nyrsys — yr heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd sydd dan bwysau parhaus.

Cyflwynwyd mewn cydweithrediad â Pontio

Aeth Nyrsys ar daith Tachwedd – Rhagfyr 2018

 

Gan fod y cynhyrchiad hwn yn rhan allweddol o dymor Gofal a Chymuned y cwmni, ac yn dod ar ddiwedd blwyddyn arbennig yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae cynnig arbennig o bris gostyngol neu 10% oddi ar bris tocyn i weithwyr GIG. Mae gofyn i weithwyr GIG ddangos eu cerdyn adnabod a dyfynnu ‘NyrsysGIG’ wrth archebu tocynnau.

 

Bu cyflwyniad cyhoeddus cyntaf o waith-ar-waith Nyrsys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Fawrth 17 Ebrill 2018, fel rhan o dymor ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig‘.

 

 

Dyddiadau’r Daith

  • 06 Tach 2018
    18:30
    Perfformiad byw
    Pontio, Bangor
  • 09 Tach 2018
    19:00
    Perfformiad byw
    Lyric, Caerfyrddin
  • 13 Tach 2018
    17:00
    Perfformiad byw
    Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
  • 16 Tach 2018
    19.00 + 19.00
    Perfformiad byw
    Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd 
    Audio described performance icon
  • 17 Tach 2018
    13.30 + 19.00
    Perfformiad byw
    Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd 
    Audio described performance icon
  • 20 Tach 2018
    18.30
    Perfformiad byw
    Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
  • 23 Tach 2018
    18.30
    Perfformiad byw
    Hafren, Y Drenewydd
  • 27 Tach 2018
    18.30
    Perfformiad byw
    Theatr Borough, Y Fenni
  • 01 Rhag 2018
    19.00
    Perfformiad byw
    Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
  • 12 Ebr 2018
    19.00
    Perfformiad byw
    Mwldan, Aberteifi
  • 12 Gor 2018
    19.00
    Perfformiad byw
    Galeri, Caernarfon
Cast

Carys Gwilym

Elain Lloyd 

Mirain Haf Roberts 

Mali Jones 

Bethan Ellis Owen 

Tîm Creadigol

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Lucy Hall

Cynllunydd Goleuo Ceri James

Cynllunydd Sain Dyfan Jones

Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate

Cyfarwyddwr Corfforol Eddie Ladd

Cyfarwyddwr Corfforol Cynorthwyol Deborah Light

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw oed: 11+

Clodrestr

Nyrsys
gan Bethan Marlow

Caneuon gan Rhys Taylor a Bethan Marlow

Syniad gwreiddiol gan Sara Lloyd a Bethan Marlow

 

Nyrsys
Nyrsys
Nyrsys