Tylwyth

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman yn falch o gyhoeddi y bydd Tylwyth yn dychwelyd i’r llwyfan yr hydref hwn. Bydd Tylwyth, gan y dramodydd gwobrwyol Daf James, yn agor yn Theatr y Sherman cyn teithio theatrau ledled Cymru.

Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau’n penderfynu mabwysiadu, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd. 

Dros ddegawd ers y ddrama glodwiw ac arloesolLlwyth, mae Aneurin, Rhys, Gareth a Dada yn ôl mewn drama newydd, dyner a direidus gan Daf James. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, maeTylwythyn cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes. 

 

Canllaw Oed: 16+ 

Yn cynnwys iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a themau aeddfed 

Dyddiadau’r Daith

Cast

Simon Watts – Aneurin

Danny Grehan – Dada

Michael Humphreys – Gareth

Arwel Davies – Rhys

Steffan Harri - Dan

Aled ap Steffan - Gavin

Tîm Creadigol

Dramodydd: Daf James

Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd

Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Tom Rogers

Cyfansoddwr: Daf James

Cynllunydd Goleuo: Ceri James

Cynllunydd Sain: Sam Jones

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw Oed: 16+