Nid asyn cyffredin ’mo Ari; cafodd ei magu ar aelwyd glyd gan hen wraig garedig. Ond â hithau bellach yn byw mewn gwarchodfa asynnod rhywle yng Ngorllewin Cymru, mae hi’n dyheu am gael byw eto ymhlith pobl. Ar ôl iddi gael ei chludo i gartref newydd arall, mae cyfeillgarwch annisgwyl yn tyfu rhyngddi hi a rebel o asyn afreolus, ac yn sydyn daw’n ymwybodol o’i chaethiwed.
Cyflwynwyd Gwlad yr Asyn yn wreiddiol yn ystod haf 2021, fel cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr. Mae'r dramodydd Wyn Mason, cyd-sylfaenydd Os Nad Nawr, yn hanu o Geredigion ac yn edrych ymlaen at gael rhannu'r cynhyrchiad hwyliog hwn yng Ngheredigion.
"Dw i wrth fy modd y bydd y ddrama o'r diwedd yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron: dyna oedd y cynllun gwreiddiol. Dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer y stori, ddim yn bell o Aberystwyth, lle mae asynnod yn darparu reidiau ar hyd y traeth, ac o fewn golwg i fryniau Pumlumon, lle hoffen nhw ddianc! Dw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd llwyfannu’r ddrama yn Theatr y Maes, lleoliad dan do, yn newid naws y sioe, o gymharu â pherfformiadau awyr agored haf diwethaf."
Cyfarwyddir y ddrama gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma fydd ei gynhyrchiad cyntaf yn ei swydd newydd ac mae'n edrych ymlaen at weithio unwaith eto gyda'r actor Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a’r cerddorion Sam Humphreys a Bethan Rhiannon, o'r band gwerin adnabyddus Calan. Dywedodd Steffan;
‘Roedd croesawu cynulleidfaoedd yn ôl am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig efo Gwlad yr Asyn yn 2021 yn brofiad gwefreiddiol. Dw i mor falch bod cyfle arall i weld y ddrama hon yng nghanol bwrlwm y Steddfod. Dewch i brofi gwledd o gerddoriaeth electro-gwerin byw, awr o stori alegorïol llawn dychymyg a doniolwch, a pherfformiad hudolus Gwenllian Higginson.’
Dyddiadau’r Daith
-
30 Gor 202218:00Perfformiad bywTheatr y maes
-
01 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y maes
-
02 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y maes
-
03 Awst 202214:00Perfformiad bywTheatr y maes
-
03 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y maes
Ari Gwenllian Higginson
Cerddorion a Chyfansoddwyr: Bethan Rhiannon a Sam Humphreys
Awdur: Wyn Mason
Cyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Cyfansoddwyr a Chynllunwyr Sain: Sam Humphreys + Bethan Rhiannon
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Carl Davies
Ymgynghorydd Goleuo: Ceri James
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Rhian Blythe
Cyfarwyddwr Symud: Matthew Gough
Dramatwrg: Mary Davies
Awdur Sibrwd: Chris Harris
Gweithredydd Sibrwd: Martha Davies
Llais Sibrwd: Annes Elwy
Rheolwr Cynhyrchu: Dyfan Rhys
Rheolwr Llwyfan: Lisa Briddon
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Ffion Rebecca Evans
Rheolwr Llwyfan Technegol a Pheiriannydd Sain: Dan Jones
Technegydd Ar Daith: Carwyn Williams
Adeiladwyr y Set: Carl Davies + Laurah Martin
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane
Canllaw oed: 13+