Theatr Gen Eto

Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin.

Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin. Gan ryddhau cynnwys o’i archif helaeth, bydd y cwmni’n rhannu nifer o’i gynyrchiadau o’r gorffennol ar ei sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol newydd AM (ar-lein ar amam.cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim) er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol, gan sicrhau fod arlwy Gymraeg ei hiaith ar gael ar-lein, ochr yn ochr ac arlwy iaith Saesneg sy’n prysur dyfu.

 

Ers mis Ebrill 2020, rhyddhawyd nifer o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru fel rhan o gyfres Theatr Gen Eto. Roedd y rhaglen yn cynnwys Llygoden yr EiraNos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams, Mrs Reynolds a’r Cena Bach gan Gary Owen, trosiad gan Meic Povey; Bachu gan Melangell Dolma; Estron gan Hefin Robinson; Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos; X gan Rhydian Gwyn Lewis; a’n Comisiynau Digidol Newydd: Fy Ynys Las gan Eddie Ladd, Er Cofid 19 gan Er Cof ac O Ben’groes at Droed Amser gan Karen Owen gyda Maggie Ogunbanwo.

 

Y Tŵr

 

gan Guto Puw

 

Libreto gan Gwyneth Glyn

 

Yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry

Ar gael o 14 Ebrill 2021

Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gyflwyno’n wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017

Yn Y Tŵr cawn stori oesol gyffredin am fywyd a chariad yn seiliedig ar waith un o ddramodwyr pwysicaf Cymru. Gan archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd, daw drama enwog Gwenlyn Parry yn fyw unwaith eto, ond, y tro hwn, ar ffurf opera newydd, deimladwy a thelynegol gan y cyfansoddwr Guto Puw a’r gantores, cyfansoddwraig a dramodydd, Gwyneth Glyn.

CC Capsiynau Caeedig ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ceir cyfarwyddiadau gosod Capsiynau Caeedig ar YouTube yma.

Bydd Y Tŵr ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube ac ar wefan ac ap AM (amam.cymru) o 14 Ebrill 2021.

GWYLIO Y TŴR AR YOUTUBE