Yn galw artistiaid a gweithwyr celfyddydol Cymru! Ffansi sgwrs?
Bydd ein Cyfarwyddwr Artistig newydd Steffan Donnelly ac aelodau eraill o’r tim yn mynd i leoliadau ledled Cymru i gwrdd â chi dros y cyfnod nesaf. Dyma gyfle am sgwrs anffurfiol i bownsio a thrafod syniadau ar y cyd, a holi cwestiynau i'n gilydd.
Dyma’r tro cyntaf i’n cynllun Drws Agored – sy’n croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu theatr yn y Gymraeg – fynd ar daith. Sefydlwyd y cynllun digidol yn ystod y cyfnod clo yn 2020 fel ffordd o gysylltu ag artistiaid ledled Cymru.
Mae croeso cynnes i bawb – ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr i’ch gweld chi!
Mae'r holl ddyddiadau a lleoliadau isod.
I drefnu sgwrs, cwblhewch y ffurflen hon neu mae croeso i chi ebostio gavin.richards@theatr.com
Dyddiadau’r Daith
-
24 Ion 20239:30 - 17:00Drws Agored Ar DaithTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
-
14 Chw 202309:30 - 17:00Drws Agored Ar DaithY Llwyfan, Caerfyrddin
-
16 Chw 202309:30 - 13:00Drws Agored Ar DaithSesiynau Digidol (drwy Teams neu Zoom)
-
06 Maw 202309:30 - 17:00Drws Agored Ar DaithTheatr y Sherman, Caerdydd
-
20 Maw 202309:30 - 13:00Drws Agored Ar DaithSesiynau Digidol (drwy Teams neu Zoom)
-
24 Maw 202309:30 - 17:00Drws Agored Ar DaithGaleri, Caernarfon
Cwblhewch y ffurflen isod i drefnu sgwrs