Rhinoseros

Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?

Mewn pentref tawel, mae rhinoseros yn taranu trwy’r strydoedd. Mae pawb wedi drysu’n llwyr. O ble ddaeth yr anifail arswydus?

Ond, fesul un, caiff holl drigolion y pentref eu hudo gan y drefn newydd a’u trawsnewid i mewn i fwystfilod. Wrth i’r byd a’i bobl newid o’i gwmpas, mae’r arwr annhebygol Bérenger (Rhodri Meilir) yn gafael yn dynn yn ei hunaniaeth ac yn gwrthod ildio – ond beth ydy’r gost o beidio cydymffurfio?

Yn llawn hiwmor annisgwyl a thensiwn hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebu ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus – mae’r rhinoserosod yn dod!

Canllaw Oed: 12+
Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, taniadau, niwl a goleuadau sy'n fflachio.

Ceir rhestr llawn o'r themâu all beri gofid yn y ddogfen hon.

Dyddiadau’r Daith

Cast

Rhodri Meilir

Bethan Ellis Owen

Dafydd Emyr

Ioan Gwyn

Priya Hall

Eddie Ladd

Glyn Pritchard

Victoria Pugh

 

Tîm Creadigol

Awdur Eugène Ionesco

Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Cai Dyfan 

Cynllunydd Goleuo Ceri James 

Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr Dyfan Jones 

Cyfarwyddwr Llais Nia Lynn

Cyfarwyddwr Symud Catherine Alexander

Clodrestr

Delwedd Burning Red

Gwybodaeth i'r Gynulleidfa

Gwybodaeth am themâu a sbardunau posib