Anfamol

“Ella dwi’n rhy ffysi. Ond dwi jest rioed ’di ffeindio ‘Yr Un.’ I fod yn onest, dwi’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”

Anfamol

gan Rhiannon Boyle

 

"Ella dwi’n rhy ffysi. Ond dwi jest rioed ’di ffeindio ‘Yr Un.’ I fod yn onest, dwi’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”

Croeso i fyd Ani. Ffeminist, cyfreithwraig, chwaer, modryb, merch. A mam.

Er yn sengl, ac er gwaethaf barn ei theulu, mae Ani’n penderfynu defnyddio sperm bank i gael babi. Efallai mai dyma beth sydd ei angen i ddod â’i theulu cymhleth yn ôl at ei gilydd!

Ond yna mae’r pandemig yn taro. Yn fam newydd, sengl, mae Ani’n sydyn yn gaeth i’w chartref efo babi sy’n crïo’n ddi-baid, ac mae ei bywyd wedi dod i stop. Mae bellach yn boddi mewn byd llawn Peppa Pinc a fformiwla, ac mae’n cyfri’r oriau nes bydd hi’n ‘gwin o’r gloch’. ’Tydi bod yn riant ddim yr hyn roedd hi’n ei ddisgwyl o gwbl.

Drama newydd, ddoniol a thyner gan Rhiannon Boyle am hunaniaeth, colled, cariad a pherthyn, ac am fod yn fam ac yn riant sengl yn y byd sydd ohoni.

Dyddiadau’r Daith

Cast

Ani: Bethan Ellis Owen

Eilydd: Gwawr Loader

Tîm Creadigol

Rhiannon Boyle: Dramodydd  

Sara Lloyd: Cyfarwyddwr

Amy Jane Cook: Cynllunydd

Katy Morison: Cynllunydd Goleuo 

Dyfan Jones: Cyfansoddi a Chynllunio Sain 

Niamh O'Donnell a Tayla-Leigh Payne: Cynllunwyr Sain a Chyfansoddwyr dan hyfforddiant  

Deborah Light: Cyfarwyddwr Corfforol 

Nia Lynn: Cyfarwyddwr Llais 

Juliette Manon Lewis: Cyfarwyddwr Cynorthwyol 

Lisa Briddon: Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwr Llwyfan

Ceri James: Rheolwr y Cynhyrchiad

Ian Buchanan: Rheolwr y Cynhyrchiad dros dro

Ffion Evans: Dirprwy Reolwr Llwyfan

Carwyn Williams: Technegydd

Gareth Hughes: Ail-oleuydd 

Christian Brown: Adeiladwr y Set 

Technegol Ltd: Rheolwr Technegol y Daith

Cathryn McShane: Dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain

Lowri Johnston: Marchnata 

Kirsten Mcternan: Ffotograffydd 

Elin Mannion: Recordio Digidol 

Chris Harris: Cydlynydd a Dramatwrg Sibrwd 

Martha Davies: Gweithredydd Sibrwd ar Daith 

Gwybodaeth Ychwanegol

Canllaw oed: 14+

Yn cynnwys iaith gref, themâu sy’n addas i oedolion a materion dwys yn ymwneud â COVID-19 a allai beri gofid.

Ni allwn warantu y bydd unrhyw artist yn ymddangos ym mhob perfformiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.

Am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac a wnelo â’r sefyllfa barhaus parthed Covid-19 yn y gymuned, rydym wedi gorfod addasu elfennau sylweddol o’r cynhyrchiad hwn ar fyr rybudd. 

Diolchwn i chi am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Clodrestr

Cyflwynir Anfamol gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.

Anfamol

Rhaglen Anfamol

Darllenwch gopi o raglen ‘Anfamol’ yma!